Neidio i'r prif gynnwy

Trefniant Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE)

Mae gweithio fel Hyfforddai Deintyddol Craidd yng Nghymru yn golygu y byddwch yn dilyn Model Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE).

Mae’r Model SLE yng Nghymru yn fodel cyflogaeth cydweithredol, gyda chyfrifoldebau’r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:

  • Cyflogwr Arweiniol Sengl - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)

Cyfrifoldeb cyflogaeth cyffredinol, gan gynnwys contractau cyflogaeth, gwiriadau cyflogaeth, gwiriadau DBS, tâl, cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu. Mae’r Cyflogwr Arweiniol ei hun yn cynnig un pwynt cyswllt ac yn cydlynu gyda’r holl randdeiliaid.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cyflogaeth, e.e. gwiriadau cyn cyflogi, cyflog ac ati, cysylltwch â NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.

  • Y Sefydliad sy’n Lletya

Rheoli a goruchwylio hyfforddiant o ddydd i ddydd, gan oruchwylwyr clinigol ac addysgol.

  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Sicrhau bod addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael eu darparu, sy’n cynnwys recriwtio i raglenni hyfforddi, rhaglenni cefnogi ac asesu, datblygu cyfadrannau a monitro ansawdd lleoliadau gwaith. Prif swyddogaeth y tri rhanddeiliad yw sicrhau bod yr hyfforddeion yn cwblhau eu hyfforddiant yn foddhaol a, thrwy wneud hynny, yn darparu gwasanaeth rhagorol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol yng Nghymru. Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Craidd, cysylltwch â Chyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi yn y lle cyntaf neu HEIW.DCTEnquiries@wales.nhs.uk.

Manteision Cyflogwr Arweiniol Sengl i Ddeintyddion Craidd yw y bydd gan yr hyfforddai, ar gyfer y cynllun hyfforddi cyfan, un cyflogwr. Rhagwelir y bydd y model yn lleihau biwrocratiaeth, yn darparu mwy o degwch, ac yn gwella’r profiad gwaith i hyfforddeion.

 

Dyma rai pethau i’w hystyried mewn perthynas â’r trefniant SLE: