Mae ein System Rheoli Dysgu, Y Tŷ Dysgu, yn blatfform ar gyfer y proffesiwn gofal iechyd ledled Cymru. Y Tŷ Dysgu yw'r platfform ar-lein lle gallwch weld a chael mynediad at y diwrnodau astudio sydd wedi'u trefnu, ond mae hefyd yn cynnwys cyrsiau a deunyddiau dysgu ychwanegol, y gallwch eu harchwilio yn eich amser eich hun neu fel rhan o'ch lwfans astudio hunangyfeiriedig y cytunwyd arno.
Bydd angen i chi gofrestru ar y wefan a byddwn yn eich ychwanegu at ffolder cynnwys sy'n berthnasol i'ch cynllun. Ar 1 Medi, pan fyddwch yn mewngofnodi i'r safle, byddwch yn gallu gweld y digwyddiadau astudio a'r deunyddiau perthnasol ar gyfer eich cynllun. Ar ôl i ddiwrnod astudio gael ei gyflwyno, bydd angen i chi fewngofnodi i'r safle a gwerthuso'r sesiwn. Bydd hyn wedyn yn cynhyrchu tystysgrif y bydd angen ei llwytho i'r e-Bortffolio.
Gallwch fynd i wefan Y Tŷ Dysgu yn: https://ytydysgu.heiw.wales.