Mae Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn gyfnod o hyfforddiant cymeradwy nad yw'n orfodol, a'i nod yw rhoi cyfle i ddeintyddion atgyfnerthu sgiliau a enillwyd yn ystod eu blwyddyn sylfaen a datblygu a gwella sgiliau newydd mewn meysydd penodol o ymarfer clinigol ac mewn amgylcheddau gwahanol. Yn ogystal, bydd cwblhau dwy flynedd o Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol ar gyfer hyfforddiant arbenigol. Mae pob cam/lefel o Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn para 12 mis ac mae cyfanswm o hyd at 3 cham, DCT1, DCT2 a DCT3.