Annwyl Gydweithiwr,
Helo a chroeso i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r cam nesaf yn eich datblygiad gyrfaol. Mae AaGIC yn gorff annibynnol yn GIG Cymru ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod gan Gymru'r staff iawn sydd â'r sgiliau iawn i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bobl Cymru: Rydych chi yn rhan bwysig iawn o'r dyhead hwnnw.
Mae hyfforddiant Deintyddol Craidd yn bodoli i'ch galluogi i ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi wedi'i chaffael yn ystod eich hyfforddiant deintyddol blaenorol, ac i ddatblygu hyn ymhellach mewn amgylchedd clinigol cefnogol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ddiwallu eich anghenion ac mae'n gofyn am eich cyfranogiad llawn ac agwedd gadarnhaol er mwyn sicrhau'r budd mwyaf.
Chi fydd yn rheoli eich datblygiad personol eich hun, a bydd angen i chi gysylltu'n agos â'ch goruchwyliwr addysgol (ES) i gyflawni eich targedau unigol a nodwyd ar ddechrau eich lleoliad hyfforddiant craidd.
Disgwylir i bob Hyfforddai gymryd rhan mewn diwrnodau astudio, naill ai'r diwrnodau astudio penodol sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau DCT1, neu gymysgedd o ddiwrnodau astudio penodol ynghyd â defnyddio'r lwfans astudio a ddarperir i bob Hyfforddai DCT2 a DCT3, sy'n eich galluogi i fynychu sesiynau hyfforddi, cyrsiau neu gynadleddau o'ch dewis.
Rhaid i hyfforddeion hefyd gwblhau e-bortffolio (e-PDP) sy'n cofnodi popeth sy'n ymwneud â hyfforddiant, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; brofiadau clinigol, asesiadau yn y gweithle, trafodaethau ar sail achosion, a myfyrdodau Hyfforddeion. Mae'r diwrnodau astudio wedi'u cynllunio i fod yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn addysgol. Mae eich adborth ar y diwrnodau astudio ac ar unrhyw agwedd ar y rhaglen hyfforddi i'w groesawu'n fawr, a bydd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gwella'n barhaus.
Gobeithio y byddwch yn gwneud llawer o ffrindiau ac yn datblygu rhwydweithiau gwerthfawr yn ystod eich blwyddyn o hyfforddiant deintyddol craidd a fydd yn para am oes.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y rhaglen neu unrhyw faterion cysylltiedig nad oes modd eu datrys yn lleol yn eich gweithle, rhowch wybod i ni: mae eich Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD), eich Goruchwyliwr Addysgol (ES) a staff AaGIC bob amser ar gael i’ch helpu.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i chi yn ystod eich hyfforddiant deintyddol craidd ac wrth ddatblygu a chyflawni eich dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Yn gywir,
Kirstie Moons
Deon Deintyddol ôl-raddedig
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
