Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu addysg feddygol a deintyddol ôl-raddedig rhagorol ac arloesol i Gymru. Mae'n darparu mynediad at gyfleusterau ôl-raddedig a chymorth addysgol o ansawdd uchel i bron 3,000 o feddygon a deintyddion graddfa hyfforddiant ledled Cymru er mwyn iddynt allu cyflawni eu dyheadau gyrfaol, gan sicrhau gofal o ansawdd uchel a diogelwch cleifion yng Nghymru ar yr un pryd.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae AaGIC yn gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Mae buddsoddiad parhaus yn darparu rhai o'r cyfleusterau addysgol meddygol a deintyddol mwyaf modern yn y DU.
Mae Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion AaGIC yn cydlynu'r gwaith o ddarparu a chyllido rhaglenni addysg a hyfforddiant deintyddol i ôl-raddedigion ledled Cymru, ac yn darparu addysg a hyfforddiant ôl-raddedig ac ôl-gofrestru i Ddeintyddion a Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol yng Nghymru, drwy ein rhwydwaith o diwtoriaid a chynghorwyr. Rydym yn cynnig Rhaglenni Hyfforddiant Sylfaenol, Rhaglenni Hyfforddiant Craidd, Rhaglenni Hyfforddiant Arbenigol (Orthodonteg, Llawfeddygaeth y Geg, Deintyddiaeth Gofal Arbennig, Adferol, Deintyddiaeth Bediatrig, Iechyd Deintyddol y Cyhoedd, Meddygaeth y Geg, Radioleg yr ên a’r Wyneb) ac ystod eang o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y tîm deintyddol.
Rydym hefyd yn cynnal rhaglenni hyfforddi ar gyfer Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol, gan gynnwys Rhaglen Hyfforddiant Sylfaenol Therapi Deintyddol Cymru (WDTFT).
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ein hyfforddeion a'n hyfforddwyr/goruchwylwyr addysgol yn gymwys ac yn hyderus yn eu rolau, gan ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion, a rhaglenni hyfforddi ac amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel sy'n gefnogol ac yn heriol er mwyn datblygu ein gweithlu deintyddol ar gyfer y dyfodol.
Cyfansoddiad GIG Cymru a Gwerthoedd y GIG
GIG Cymru yw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru sy'n darparu gofal iechyd a ariennir yn gyhoeddus i oddeutu 3 miliwn o bobl sy'n byw yn y wlad. Mae gan y GIG egwyddor allweddol, sef y dylai gofal iechyd da fod ar gael i bawb, waeth pa mor gyfoethog ydynt.
Iechyd yng Nghymru (https://www.gig.cymru/) yw gwefan Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru, ac mae'n dwyn ynghyd ffynonellau gwybodaeth am wasanaethau iechyd ac iechyd a lles poblogaeth Cymru.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bennu polisi iechyd ar gyfer y GIG yng Nghymru a'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd.