Cyflogwr Arweiniol Sengl
Ers mis Medi 2021, Gwasanaethau a Rennir y GIG (NWSSP) yw'r Cyflogwr Arweiniol Sengl ar gyfer Hyfforddeion Deintyddol Craidd yng Nghymru (ac eithrio Hyfforddeion Deintyddol Iechyd Cyhoeddus). Mae NWSSP yn sefydliad annibynnol cydfuddiannol, sydd dan berchnogaeth a chyfarwyddyd GIG Cymru. Sefydlwyd NWSSP ar 1 Ebrill 2011 i ddarparu ystod o wasanaethau technegol, gweinyddol a phroffesiynol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, er mwyn cefnogi holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru. Mae manteision y model Cyflogwr Arweiniol Sengl yn cynnwys:
Yn dilyn eich apwyntiad, byddwch yn cael neges e-bost yn eich croesawu a chwestiynau cyffredin gan NWSSP yn cadarnhau manylion gwiriadau cyn cyflogaeth, Cofnod Staff Electronig (ESR) a manylion treuliau, gwyliau blynyddol ac ati.
NWSSP fydd eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cyflogaeth yn ystod y rhaglen Hyfforddiant Deintyddol Craidd. Dental@single-lead-employer.zendesk.com.
Cyfrif e-bost GIG Cymru
Fel un o weithwyr NWSSP, byddwch yn cael cyfeiriad e-bost @wales.nhs.uk. Bydd pob dogfen swyddogol yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru. Felly, mae’n bwysig eich bod yn edrych ar eich cyfrif yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar hwn cyn gynted â phosib. Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad at eich cyfrif, cysylltwch ag it.servicedesk@wales.nhs.uk.
Cofnod Staff Electronig (ESR)
Fel un o weithwyr NWSSP, bydd gennych fynediad at Gofnod Staff Electronig (ESR). Dyma ble bydd yr SLE yn cofnodi absenoldebau a gwyliau arbennig ar ran sefydliadau sy’n lletya. Bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru. Mae NWSSP yn gweithredu system slipiau cyflog di-bapur felly bydd slipiau cyflog ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho o’r ESR. Cadwch eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol ar eich ESR gan ein bod yn dibynnu ar yr wybodaeth hon os bydd angen i ni gysylltu â chi am unrhyw reswm. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cyfrif ESR, cysylltwch â’r Hyb Cymorth ESR yn esrhub.wales@wales.nhs.uk.
Treuliau
Mae gan bob Hyfforddai Deintyddol Craidd yr hawl i hawlio costau adleoli, costau busnes a chostau teithio ychwanegol. Fel arfer, rhaid gwneud pob hawliad o fewn 3 mis i'r digwyddiad / traul.
Ar ôl dechrau eich swydd hyfforddi, bydd NWSSP yn rhoi cyfrif treuliau Assure i chi er mwyn i chi allu hawlio'r treuliau hyn.
Gall hyfforddeion deintyddol arbenigol newydd sy'n gymwys i hawlio Ad-daliad Adleoli hawlio yn erbyn eu Cyllideb Adleoli yn unol ag Adleoli Cymru Gyfan - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae modd hawlio drwy eich cyfrif treuliau Assure (dewiswch Approval Group: ‘Junior Relocation’/ Type of Expense: fel sy'n briodol).
Mae gan hyfforddeion deintyddol cymwys hawl i 30 diwrnod o Absenoldeb Astudio y flwyddyn a Chyllideb Astudio flynyddol o £600 (Medi-Awst bob blwyddyn). Gweler Polisi Absenoldeb Astudio AaGIC yn: https://heiw.nhs.wales/files/policies-and-procedures/all-wales-study-leave-policy-for-doctors-and-dentists-in-training.
Dyma'r broses ar gyfer hawlio treuliau yn erbyn eich Cyllideb Astudio:
*NODER: Mae system Intrepid yn cael ei disodli gan blatfform newydd o'r enw CODI. Unwaith y bydd y trawsnewid yn digwydd, byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i sefydlu a chael mynediad i'r system newydd.
Mae gan Hyfforddeion Deintyddol Craidd sydd angen teithio i ysbytai neu safleoedd cymunedol eraill fel rhan o'u swydd hawl i hawlio Milltiroedd Busnes. Dyma'r broses ar gyfer hawlio Milltiroedd Busnes:
Gall Hyfforddeion Deintyddol Craidd sy'n gweithio'n barhaol ar safleoedd hollt, yn unol â'u Disgrifiad Swydd, hawlio Milltiroedd Gormodol (sy'n wahanol i filltiroedd busnes). Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio'r system Ad-daliad Adleoli ar gyfer yr hawliadau hyn (gweler Cwestiwn 5 yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin: Adleoli Cymru Gyfan - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Dyma'r broses ar gyfer hawlio Milltiroedd Gormodol:
8.5 Salwch/Absenoldeb o hyfforddiant
Sut i wneud cais am wyliau blynyddol
Rhoi gwybod am absenoldeb salwch