DCT 1
Bydd 28 Diwrnod Astudio yn ystod y flwyddyn hyfforddi, wedi'u trefnu gan Gyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddi DCT1. Mae'r diwrnodau astudio wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r holl sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer ymarfer clinigol llwyddiannus. Mae'r rhan fwyaf o'r cyrsiau wedi'u lleoli mewn canolfannau ôl-raddedig mewn ysbytai lleol, ond gellir cynnal rhai diwrnodau mewn lleoliadau eraill, ar-lein, neu wedi'u cyfuno â chynlluniau eraill. Yn aml, bydd diwrnodau'n dechrau gyda chyfle i ddatrys problemau o ryw fath, lle gellir trafod problemau o unrhyw fath yn agored gyda'ch cyfoedion a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi. Bydd diwrnodau astudio yn gymysgedd o ddarlithoedd sy'n seiliedig ar theori, trafodaethau a sesiynau ymarferol. Mae angen i chi gymryd rhan lawn er mwyn llwyddo.
Bydd Hyfforddeion DCT1 hefyd yn cael 2 ddiwrnod ar gyfer astudio hunangyfeiriedig. Bydd y diwrnodau hyn yn cael eu cynnwys yn amserlen diwrnodau astudio DCT1, ond gellir eu newid gyda chytundeb y TPD a'r ES. Bwriedir i'r diwrnodau astudio hunangyfeiriedig hyn ddilyn amcanion dysgu a nodir yng nghynlluniau datblygu personol Hyfforddeion, a dylid cofnodi tystiolaeth o weithgarwch ar y diwrnodau hyn yn yr e-bortffolio.
DCT2/DCT3
Bydd Hyfforddeion DCT2 a DCT3 yn dilyn yr un cwricwlwm â'r Hyfforddeion DCT1, ond mae'n ofynnol iddynt ddangos lefelau cymhwysedd uwch.
Bydd gan Hyfforddeion DCT2 a DCT3 nifer fach o sesiynau diwrnodau astudio strwythuredig i'w mynychu, sy'n cael eu trefnu gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi. Mae gan hyfforddeion DCT2 a DCT3 hawl i 30 diwrnod astudio y flwyddyn, fel rhan o'u hyfforddiant a'u datblygiad, a dylid trafod a chytuno ar y diwrnodau hyn gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi, goruchwylwyr addysgol a rheolwyr clinigol. Mae Hyfforddeion DCT2 a DCT3 hefyd yn cael lwfans astudio o £600 y flwyddyn. O dan gontract Cyflogwr Arweiniol Sengl, bydd angen i Hyfforddeion gysylltu â'u Goruchwyliwr Addysgol ynghylch ceisiadau am absenoldeb astudio a defnyddio eu lwfans astudio.
Mae'n gyffredin i Hyfforddeion gytuno ar y cwrs neu'r hyfforddiant gyda'u Goruchwyliwr Addysgol fel rhan o'u cynllun datblygu personol (CDP) ac yna talu am y cwrs neu'r hyfforddiant eu hunain cyn hawlio'r arian yn ôl gan ddefnyddio system dreuliau Assure. Bydd hawliadau am ad-daliad o £600 o lwfans astudio yn cael eu cymeradwyo gan y bwrdd iechyd sy'n lletya. Bydd hawliadau am ad-daliadau treuliau eraill, e.e. costau teithio i ddiwrnodau astudio (lle bo hynny'n berthnasol), yn cael eu cymeradwyo gan weinyddwr y cynllun.
Presenoldeb
Fel rhan o'ch canlyniadau gorfodol, disgwylir i chi gymryd rhan weithredol ym mhob agwedd ar eich hyfforddiant a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi. Argymhellir yn gryf eich bod yn bresennol ym mhob diwrnod astudio a drefnir gan eich cynllun. Bydd ymgysylltiad cyfyngedig neu bresenoldeb gwael drwy gydol y flwyddyn yn effeithio ar eich gallu i gwblhau eich Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn llwyddiannus.
Cedwir cofnod o bresenoldeb a gall Hyfforddeion lawrlwytho tystysgrifau DPP y gellir eu dilysu o system rheoli cyrsiau ar-lein Y Tŷ Dysgu.
Ni ddylech gymryd gwyliau blynyddol ar ddiwrnodau astudio.
Rhannwch gar lle bo hynny'n bosibl.
Os ydych yn sâl ar Ddiwrnod Astudio, ffoniwch Gyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi erbyn 9am.
Prydlondeb
Nodir yr amser dechrau yn y rhaglen; cofiwch y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol cyn yr amser hwn. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr, efallai y cewch eich gwahardd o'r cwrs ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Gwisg ac Ymddygiad
Disgwylir safonau proffesiynol o ran gwisg mewn diwrnodau astudio a diwrnodau cwrdd i ffwrdd/cynadleddau. Dylai dillad fod yn briodol i'r amgylchedd.
Mae cwrteisi a pharch at gydweithwyr, staff gweinyddol a staff eraill a'r cyhoedd a allai fod yn bresennol yn y lleoliad yn gwbl ofynnol. Dim ond i gymryd nodiadau y gellir defnyddio dyfeisiau symudol fel llechi a gliniaduron. Gall defnyddio'r dyfeisiau hyn ar gyfer unrhyw beth arall arwain at ofyn i chi adael. Nid yw'n dderbyniol defnyddio ffonau symudol o gwbl yn ystod agweddau addysgol y rhaglen astudio, a dylid diffodd y rhain neu eu tewi, ac eithrio yn ystod egwyliau.
Treuliau Teithio
Dylai'r holl dreuliau hyfforddeion gael eu hawlio drwy blatfform treuliau Assure, sydd ar gael drwy ffonau symudol neu drwy fewngofnodi ar-lein. Bydd Gwasanaethau a Rennir yn rhoi eu manylion mewngofnodi i Hyfforddeion gael mynediad at blatfform Assure.