Neidio i'r prif gynnwy

Delio â Phroblemau

Os oes gennych bryderon am eich hyfforddiant, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch goruchwyliwr addysgol ar unwaith. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus ar ôl siarad â'r goruchwyliwr addysgol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi. Gellir codi pryderon ynghylch hyfforddiant mewn sawl ffordd.

Gallwch godi unrhyw bryderon yn uniongyrchol gydag unrhyw un o'r bobl ganlynol, yn bersonol neu'n ysgrifenedig:

  • Goruchwylwyr Addysgol
  • Cyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddiant
  • Rheolwr DCT
  • Deon Cyswllt ar gyfer DCT

Mae gan AaGIC a'ch cyflogwr gyfrifoldebau ac, yn gyffredinol, dylech weithio gyda'r sefydliad sy'n eich cyflogi yn gyntaf, gan roi gwybod i Gyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi am y cynnydd. Os oes problemau heb eu datrys o hyd, cysylltwch â'r Tîm DCT yn AaGIC.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau uwchgyfeirio a chodi pryderon AaGIC, neu dudalennau gwe codi llais heb ofn yn: https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/cefnogaeth/rheoli-ansawdd/codi-pryderon-hyfforddi/.

Codi Pryderon os yw Cleifion a Chydweithwyr mewn perygl

Rhaid i ddeintyddion bob amser roi diogelwch y claf yn gyntaf a gweithredu’n brydlon os yw cleifion neu gydweithwyr mewn perygl a chymryd camau i’w hamddiffyn. Dylech gymryd camau priodol os oes gennych bryderon am y posibilrwydd o gam-drin plant neu oedolion agored i niwed.

Rhaid i ddeintyddion fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer codi pryderon a bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau lleol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed a gwybod at bwy i droi am gyngor.

Dylech godi pryderon gyda'ch cyflogwr. Fodd bynnag, os na fyddant yn gweithredu ar eich pryder, cysylltwch â'r Rheolwr DCT yn AaGIC.

Rhaid i oruchwylwyr addysgol a Hyfforddeion Deintyddol Craidd roi gwybod i’r TPD am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol yn y Bwrdd Iechyd sy’n ymwneud â’r Hyfforddai, a datgan unrhyw ymchwiliadau cyfredol gan y GDC, y Bwrdd Iechyd neu unrhyw ymchwiliad arall sy’n gysylltiedig â’u gwaith fel deintydd.