Neidio i'r prif gynnwy

Cynrychiolwyr Hyfforddeion a Fforymau Hyfforddeion

Mae fforymau hyfforddeion yn cael eu sefydlu bob blwyddyn hyfforddi i wella ac annog cyfathrebu gyda hyfforddeion ledled Cymru. Trefnir cyfarfodydd fforwm hyfforddeion bob chwarter ac maent yn eu lle i hwyluso adborth gan hyfforddeion am yr hyfforddiant yn y cynlluniau a'r unedau.

Ar ddechrau pob blwyddyn hyfforddi, bydd eich TPD yn eich annog i wirfoddoli fel cynrychiolydd y cynllun. Os bydd nifer o hyfforddeion yn mynegi diddordeb, cynhelir pleidlais, a bydd y cynrychiolydd yn cael ei ethol gan ei gymheiriaid yn ei gynllun. Bydd cynrychiolwyr yn eu swyddi rhwng mis Medi 2025 a mis Awst 2026.

 

Disgwylir i gynrychiolwyr y cynllun DCT wneud y canlynol:

  • Casglu adborth gan gydweithwyr am yr hyfforddiant a ddarperir yn eu cynllun a'u huned leol.
  • Mynychu Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol (DTC) AaGIC 4 gwaith y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein yn ystod amser cinio er mwyn lleihau'r effaith a'r tarfu ar hyfforddeion.
  • Rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw bwyntiau a godir yng nghyfarfod y DTC i’w cyd-hyfforddeion.
  • Darparu fideo tysteb am eu profiadau hyfforddi yng Nghymru a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio ar wefan ddeintyddol AaGIC a'r cyfryngau cymdeithasol i gefnogi hyfforddeion yn y dyfodol.

Noder: Os nad yw cynrychiolwyr yn gallu mynychu cyfarfod, dylent drefnu bod cydweithiwr o lefel hyfforddiant debyg yn bresennol ar eu rhan i gynrychioli eu cynllun. Rhaid derbyn ymddiheuriadau o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.

Dyma ddyddiadau cyfarfodydd y flwyddyn:

Cyfarfod Rhagarweiniol i Gynrychiolwyr  Dydd Mawrth 14 Hydref 2025  1:00-1:30 pm - Teams 
Cyfarfod y Gaeaf Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025 1:00-1:30 pm - Teams 
Cyfarfod y Gwanwyn Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026 1:00-1:30 pm - Teams 
Cyfarfod yr Haf Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026 1:00-1:30 pm - Teams