Rydym ni'n gwerthfawrogi y bydd Swydd Hyfforddi newydd yn amser prysur i chi, felly rydym ni wedi datblygu'r Rhestr Wirio ganlynol i'ch helpu chi:
|
Darllenwch y llawlyfr hwn. |
|
|
Cysylltwch â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i gwblhau dogfennau contract 'Cyflogwr Arweiniol Sengl’ (SLE) ac archwiliadau cyn cyflogi os oes angen. |
|
|
Mae'n bwysig nad ydych yn trefnu gwyliau yn ystod mis cyntaf eich lleoliad gan fod rhai sesiynau cynefino a chyfarfodydd pwysig wedi'u trefnu yn ystod y cyfnod hwn. Cofiwch hefyd osgoi cymryd gwyliau ar ddiwrnodau astudio. |
|
|
CYFLWYNIAD I WARD - Efallai y bydd rhai hyfforddeion sy'n ymgymryd â swydd llawdriniaeth gên ac wyneb (OMFS) yn cael eu gwahodd i fynychu cwrs deuddydd "Cyflwyniad i'r Ward". Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau allweddol y ward a sgiliau clinigol hanfodol, gan gynnwys gosod canwla, pwytho, a mwy. Bydd hyn yn digwydd ar 4 a 5 Medi 2025. Os oes angen i chi fod yn bresennol, bydd y Rheolwr DCT yn rhoi gwybod i chi cyn eich dyddiad dechrau. Byddwch hefyd yn cael sesiwn gynefino yn eich uned leol. |
|
|
Hyfforddiant Tawelu Mewnanadlol - Efallai y bydd rhai hyfforddeion mewn swyddi cymunedol neu bediatreg yn cael eu gwahodd i ymgymryd â hyfforddiant tawelu mewnanadlol. Mae hyn yn cynnwys diwrnod astudio ar ddydd Gwener 26 Medi 2025, cwblhau 10 achos clinigol, llyfr log, ac adroddiadau achos myfyriol. Os oes angen i chi gwblhau’r hyfforddiant hwn, bydd y Rheolwr DCT yn rhoi gwybod i chi cyn eich dyddiad dechrau. |
|
|
Mynychwch sesiwn gynefino yn y gweithle a sesiwn gynefino diwrnodau astudio'r cynllun. |
|
|
Ymgyfarwyddwch â pholisïau'r Adran/Bwrdd Iechyd Lleol (BILl). |
|
| Gwnewch apwyntiad i weld eich Goruchwyliwr Addysgol (ES) cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol yn ystod pythefnos gyntaf y swydd. | |
|
Dysgwch am eich rota a'ch amserlen ar gyfer y swydd a sut i ddod o hyd i leoedd y bydd angen i chi deithio iddynt. |
|
|
Ymgyfarwyddwch â’r cwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Craidd (COPDEND), e-bortffolio AXIA a ffurflenni asesu. |
|
|
Dechreuwch feddwl am gwblhau'r asesiadau gweithle/digwyddiadau dysgu dan oruchwyliaeth, prosiect archwilio/prosiect gwella ansawdd a gofynion cwricwlwm eraill. |
|
|
Archebwch wyliau blynyddol cyn gynted â phosibl – rhowch o leiaf 6 wythnos o rybudd a chofiwch fod yn rhaid i chi osgoi diwrnodau astudio. |
|
|
Bydd eich cyfrineiriau TG yn cael eu hanfon atoch ar ddechrau'r swydd hyfforddi. |
|
|
Os oes gennych chi gyfrif e-bortffolio Axia yn barod, bydd eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn aros yr un fath. Os nad oes gennych chi gyfrif yn barod, bydd eich enw defnyddiwr a'ch cyfrineiriau'n cael eu hanfon atoch chi ar ddechrau eich swydd hyfforddi. |
|
|
Cofrestrwch ar Y Ty Dysgu - y system archebu cyrsiau ar gyfer diwrnodau astudio DCT a chyrsiau DPP. |
|
|
Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r Enwau Cyswllt Allweddol yn y llawlyfr hwn. |