Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad 2: Brif Leoliadau Hyfforddi'r Byrddau Iechyd Lleol

Ysbyty Athrofaol Cymru

Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XY

Ysbyty Athrofaol Llandochau

Ffordd Penlan, Llandochau, Penarth CF64 2XX

Car

Mae ysbyty Llandochau 3.1 milltir o ganol dinas Caerdydd, tua 10 munud mewn car.

Cyfarwyddiadau - O Gyffordd 33 yr M4 (Gorllewin Caerdydd). Wrth y gylchfan, dilynwch yr arwyddion am Gaerdydd (A4232).

Dilynwch y ffordd osgoi am sawl milltir, heibio'r allanfeydd ar gyfer Amgueddfa Sain Ffagan a'r Barri.

Trowch oddi ar yr A4232, gan ddilyn yr arwyddion am Benarth. Cymerwch y bedwaredd allanfa oddi ar y gylchfan, a dilyn y ffordd dros y bont. Yn y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail allanfa (syth ymlaen) a sicrhewch eich bod yn y lôn dde ar gyfer y set o oleuadau traffig. Trowch i'r dde wrth y goleuadau hyn, gan basio tafarn y Merrie Harrier ar y dde.

Mae mynedfa Ysbyty Llandochau oddeutu 500m i fyny'r allt ar y chwith. Canolfan Academaidd Routledge yw'r adeilad pedwar llawr ar y dde wrth i chi yrru i mewn. Gyrrwch yn eich blaen i ddod o hyd i feysydd parcio staff ac ymwelwyr.

Trên 

Cogan yw'r brif orsaf reilffordd agosaf, sydd 2.9 milltir o Ganol y Ddinas neu 0.6 milltir o Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae'r daith gerdded 10-15 munud ar hyd ffordd brysur, ac mae cwmni tacsi yn yr orsaf drenau. Mae trenau o'r Barri a Chaerdydd Canolog yn rhedeg yn aml.

Bws

Mae safle bws y tu allan i fynedfa'r ysbyty ar ddwy ochr y ffordd. Mae bws rhif 95 yn rhedeg yn rheolaidd o ganol dinas Caerdydd i ganol tref y Barri drwy Landochau. Gallwch gael rhagor o fanylion yn http://www.cardiffbus.com.


Ysbyty Treforys

Heol Maes Eglwys, Treforys, Abertawe SA6 6NL

Car

O Gaerdydd, dilynwch yr M4 tua'r Gorllewin (Rhybudd: Camerâu Cyflymder ar hyd yr M4)

Gadewch yr M4 yng nghyffordd 46, ac yna wrth y gylchfan cymerwch y ffordd gyntaf oddi arni gan ddilyn yr A48 i gyfeiriad Treforys

Wrth gylchfan bach, trowch i'r chwith ar Heol Pant Lasau

Wrth gylchfan fach, ewch ymlaen i Ffordd Mynydd Gelli Wastad

Trowch i'r dde a chyrraedd Ysbyty Treforys.

Trên

Os ydych chi'n dod i Ysbyty Treforys ar y trên ac yr hoffech gael cymorth i gynllunio eich taith, efallai yr hoffech ddefnyddio adnodd cynllunio teithiau National Rail Enquiries.

Gallwch ddefnyddio gwefan TrainTaxi i ddod o hyd i fanylion y cwmnïau tacsi sy'n gwasanaethu'r orsaf drenau, neu i weld amseroedd bysiau lleol.

Bws

Mae bysiau rheolaidd yn gwasanaethu'r ysbyty. Ewch i https://www.traveline.cymru/ i gynllunio eich taith.

 

Ysbyty Glan Clwyd

Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan, Y Rhyl LL18 5UJ

O'r Rhwydwaith Traffyrdd (M56) i'r A55

Mae'r M56 yn terfynu wrth gylchfan sy'n ymuno â'r A5117. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer y Queensferry a Gogledd Cymru. Mae rhifau'r ffyrdd yn newid dros y 5 - 6 milltir nesaf drwy'r A550 a'r A494 nes bod yr A55 yn uno ar y chwith ar ben bryn y tu allan i Queensferry. Dilynwch yr arwyddion tuag at Gonwy yn awr.

O Gylchfan Croesoswallt yr A5/A483 i'r A55

Yn agos at Groesoswallt, mae'r A5, sy'n arwain o'r M54 a'r A483 o'r Drenewydd, yn cyfarfod ar gylchfan ac yn parhau ar yr A5 i gylchfan arall ger y Waun. O'r fan hon, cymerwch ffordd osgoi'r Waun (A483) ac ewch tua'r Gogledd tuag at Gaer i gyffordd cylchfan fawr cyn ymuno â'r A55, gan ddilyn yr arwyddion am Gonwy.

Ar ôl ymuno â'r A55 i’r Ysbyty Arhoswch ar yr A55 am oddeutu 30-35 milltir. O allanfa’r Eglwys Farmor yng Nghyffordd 25, dilynwch y logos coch swyddogol - sy’n nodi bod gan yr ysbyty adnoddau damweiniau ac achosion brys. Mae arwydd Bwrdd Croeso lliw brown ar gyfer Castell Bodelwyddan, sydd i'w weld ar y chwith, yn ffurfio tirnod ychwanegol, tra bod meindwr yr Eglwys Farmor ei hun yn amlwg ar y dde.

Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Mae gorsaf y Rhyl yn cael ei gwasanaethu drwy Gaer gan wasanaethau Trenau Arriva Cymru a Threnau Virgin West Coast ar lwybrau Llundain Euston/Crewe-Caergybi a Manceinion-Caergybi sydd yn yr Amserlen All Line. Mae Crewe yn daith tua 1 awr, Manceinion yn awr a hanner, Birmingham New Street yn 2 awr, Llundain Euston yn 3 awr a Chaerdydd ychydig o dan 4 awr. Mae gwybodaeth am amserlenni i'w gweld ar y dudalen Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Mae llwybrau bysiau Arriva Cymru yn gwasanaethu'r ysbyty ac yn gadael o'r tu allan i'r orsaf drenau gydag amser teithio o 17 munud. Mae gwasanaeth cyfyngedig, bob awr yn fras, yn rhedeg gyda'r nos tra, ar ddyddiau Sul a gwyliau cyhoeddus, mae'r gwasanaeth hefyd yn cael ei ddarparu bob awr. Mae gwybodaeth am amserlenni i'w gweld ar y dudalen Trafnidiaeth Gyhoeddus.

Fel arall, mae nifer o dacsis trwyddedig yn aros ar safle tacsis yr orsaf fel arfer. Mae tacsis ar gael yn aml o'r ysbyty, ac mae rhifau ffôn ar gael mewn llyfrau ffôn fel Yellow Pages.

Noder: Efallai y bydd rhai sesiynau o gynllun DCT1 Gogledd Cymru yn cael eu cynnal yn Athrofa Feddygol Wrecsam, wrth ymyl Ysbyty Maelor Wrecsam, neu'r ganolfan addysg ôl-raddedig yn Ysbyty Gwynedd Bangor. Bydd newidiadau o'n lleoliad arferol yn cael eu dangos yn glir ar eich amserlen uwch, a bydd cyfarwyddiadau'n cael eu darparu yn ôl yr angen.

 

Yr Adran Ddeintyddol Ôl-raddedig, Ysbyty'r Tywysog Siarl Merthyr Tudful, Morgannwg Ganol, CF47 9DT

Ffôn: 01685 721721 (Cleifion Allanol a Deintyddol 12, 13, 14, 15)

Sylwch fod lleoliad yr Adran Ddeintyddol Ôl-raddedig wedi symud o'r prif ysbyty i lawr gwaelod Uned 3, sydd wrth ymyl swyddfeydd 3 llawr y contractwyr ar yr ochr dde wrth i chi fynd i mewn i dir yr ysbyty.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Gaynor Owen.