Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yw’r prif gyflogwr ar gyfer holl Hyfforddeion Deintyddol Sylfaenol Cymru. Mae hyn yn golygu mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fydd eu cyflogwr ar gyfer y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cysylltu â’ch FD i gadarnhau manylion am Archwiliadau Cyn-cyflogi yn cynnwys cais Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ESR a manylion treuliau, gwyliau blynyddol ac ati yn ystod mis Gorffennaf ac Awst.
NWSSP fydd y pwynt cyswllt cyntaf os bydd gan eich FD unrhyw ymholiadau ynghylch eu cyflogaeth dros y misoedd nesaf ac yn ystod y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol - NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.
Model cyflogaeth gydweithredol yw model y SLE yng Nghymru, gyda chyfrifoldebau’r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:
Un Prif Gyflogwr – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
Cyfrifoldeb cyffredinol am gyflogaeth gan gynnwys cyhoeddi llythyrau cynnig ar gyfer cyflogaeth, cwblhau gwiriadau cyflogaeth, cyhoeddi a diwygio contractau cyflogaeth, darparu Gwarchodaeth Indemniad Meddygol ar gyfer gweithgareddau’r GIG, trefnu ceisiadau Rhestr Cyflawnwyr lle bo hynny’n berthnasol, Iechyd Galwedigaethol, cymorth i weithwyr, mwy o geisiadau a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cymorth iechyd a lles, hyfforddiant statudol a gorfodol, talu cyflogau a threuliau, defnyddio polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth ar y cyd â’r holl Randdeiliaid, darparu cyfleusterau Adnoddau Dynol, cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu.
Mae’r Prif Gyflogwr ei hun yn cynnig un pwynt cyswllt sy’n cydlynu gyda’r holl randdeiliaid.
Sefydliad sy’n Lletya
Rheoli a goruchwylio hyfforddiant o ddydd i ddydd gan ES.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Sicrhau bod addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael eu darparu sy’n cynnwys recriwtio i raglenni hyfforddi, rhaglenni cefnogi ac asesu, datblygu cyfadrannau a monitro ansawdd lleoliadau.
Prif swyddogaeth y tri rhanddeiliad yw sicrhau bod yr hyfforddeion yn cwblhau eu hyfforddiant yn foddhaol a thrwy wneud hynny’n darparu gwasanaeth rhagorol i’r Sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol yng Nghymru.
Dyma’r manteision i’r sefydliadau sy’n lletya ac AaGIC:
Dros y misoedd nesaf, anfonir y dogfennau canlynol:
Llofnodwch y ddogfen briodol a anfonwyd atoch a’i dychwelyd erbyn y dyddiad a nodwyd.