Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, a dwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd ei chynllun ar gyfer GIG “sero net” erbyn 2030. Mewn ymateb i’r addewid hwn, rhyddhawyd Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.
Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (llyw.cymru)
Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) rôl i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynllun hwn, ond gall pob un ohonom ni chwarae rhan.
Mae'r Lancet yn disgrifio’r newid yn yr hinsawdd fel "y bygythiad iechyd byd-eang mwyaf sy'n wynebu'r byd yn yr 21ain ganrif".
Mae meddwl am y newid yn yr hinsawdd yn gallu bod yn frawychus (mae hyn yn ymateb arferol i newyddion ofnadwy, ac rydym ni’n galw hyn yn drallod eco). Mae cydnabod y ffordd rydym ni’n teimlo, a gweithredu, yn gallu ein helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol.
Dyma rai camau bach y gallech chi, fel gweithiwr iechyd deintyddol proffesiynol yng Nghymru, eu cymryd:
Gofal Sylfaenol Gwyrddach - Fofal Sylfaenol Un (gig.cymru)
Deintyddiaeth Gynaliadwy: Canllaw Gwybodaeth ar gyfer Practisau Deintyddol | Y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy
Mae Gofal Iechyd Cynaliadwy yn rhoi gobaith am ddyfodol iachach a phlaned iachach.
Dyma pam mae’r Lancet hefyd yn disgrifio’r newid yn yr hinsawdd fel “y cyfle gorau i ailddiffinio penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd”.