Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen gymorth i nyrsys ddeintyddol sydd newydd gymhwyso

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyhoeddi lansiad menter newydd sydd wedi'i chynllunio i gefnogi Nyrsys Deintyddol sydd newydd gymhwyso wrth iddynt ymuno â'r gweithlu. Mae'r fenter yn rhan o ymrwymiad ehangach AaGIC i wella ansawdd gwasanaethau deintyddol a mynd i'r afael â heriau'r gweithlu ym maes gofal sylfaenol ledled Cymru.

Mae'r rhaglen ddwy flynedd sy'n dechrau yn Hydref 2025, yn fodel tiwtoriaeth strwythuredig wedi'i deilwra ar gyfer graddedigion Diploma y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Deintyddol (NEBDN). Bydd y cyfnod pontio hwn yn cynnig mentora, arweiniad a phrofiadau dysgu ymarferol dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol, gan helpu nyrsys deintyddol newydd i atgyfnerthu eu gwybodaeth, sgiliau clinigol, a meithrin hyder.

 

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen gymorth hon cysylltwch â Heiw.dentalnursetraining@wales.nhs.uk

 

Mae'r fenter hon yn cefnogi nyrsys deintyddol sy'n ymgymryd â Diploma NEBDN trwy AaGIC. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Ddiploma NEBDN,  cliciwch yma am ragor o wybodaeth.