Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Beth yw gweithiwr proffesiynol gwyddor gofal iechyd

Mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn GIG Cymru, gan weithio y tu ôl i'r llenni ac ar y rheng flaen. Maen nhw'n helpu i atal salwch, gwneud diagnosis o gyflyrau, trin cleifion, a chefnogi adferiad, gan ddefnyddio gwyddoniaeth, technoleg ac arbenigedd clinigol. Mae yna dros 30 o broffesiynau gwyddor gofal iechyd, wedi'i grwpio i mewn chwe maes arbenigol: 

Ffisiolegau Clinigol

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn gwneud profion i wirio sut mae gwahanol rannau o’r corff yn gweithio. Mae hyn yn helpu i ganfod problemau iechyd ac i gynllunio’r gofal cywir i gleifion.

Gwyddorau Labordy a Genomeg

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn edrych ar samplau a genynnau i ddeall salwch. Mae eu gwaith yn helpu meddygon i wneud diagnosis cywir a dewis y triniaethau gorau.

Patholeg

Genomeg

Gwyddorau Ffisegol

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn defnyddio ffiseg a pheirianneg i wneud gofal iechyd yn fwy diogel ac yn well. Maent yn gweithio gyda’r offer a’r dechnoleg a ddefnyddir ar gyfer profion a thriniaethau.

Gwyddorau Cyfrifiadurol Clinigol

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn defnyddio cyfrifiaduron a data i wella gofal cleifion ac i gefnogi ymchwil. Maent yn helpu timau gofal iechyd i wneud penderfyniadau gwell.

 

Adran Lawdriniaeth

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn gweithio gyda thimau llawfeddygol i gadw cleifion yn ddiogel cyn, yn ystod, ac ar ôl llawdriniaeth.

Radiograffeg

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn defnyddio delweddu uwch a therapi ymbelydredd wedi’i dargedu i ganfod salwch a thrin cyflyrau fel canser.

 

Ar draws pob maes, mae cyfleoedd i weithio mewn rolau cynorthwyol a chyswllt. Gyda hyfforddiant a phrofiad pellach, gall gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd symud ymlaen i rolau Gwyddonydd Clinigol a Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol , gan gyfuno ymarfer uwch, arweinyddiaeth ac arloesedd. 

 

Archwiliwch rolau gwyddor gofal iechyd 

  • Ymwelwch a Tregyrfa, ein platfform gyrfaoedd rhithwir lle gallwch archwilio rolau gwyddor gofal iechyd.