Os oes gennych chi bryderon am eich hyfforddiant, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch goruchwyliwr addysgol ar unwaith. Os ydych chi'n dal yn anhapus ar ôl siarad â'r goruchwyliwr addysgol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi. Gellir codi pryderon ynghylch hyfforddiant mewn sawl ffordd.
Gallwch godi unrhyw bryderon yn uniongyrchol gydag unrhyw un o'r bobl ganlynol, yn bersonol neu'n ysgrifenedig:
Mae gan AaGIC a'ch cyflogwr gyfrifoldebau, ac yn gyffredinol, dylech weithio gyda'r sefydliad sy'n eich cyflogi yn gyntaf, gan roi gwybod i Gyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi am unrhyw gynnydd. Os oes problemau heb eu datrys o hyd, cysylltwch â'r Tîm Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol yn AaGIC.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau AaGIC ar godi pryderon ac uwchgyfeirio, neu dudalennau gwe codi llais heb ofn yn: https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/rheoli-ansawdd/codi-pryderon-hyfforddi/
Codi Pryderon os yw Cleifion a Chydweithwyr mewn Perygl
Rhaid i ddeintyddion bob amser roi diogelwch y claf yn gyntaf a gweithredu’n brydlon os yw cleifion neu gydweithwyr mewn perygl a chymryd camau i’w hamddiffyn. Dylech gymryd camau priodol os oes gennych bryderon am y posibilrwydd o gam-drin plant neu oedolion agored i niwed.
Rhaid i ddeintyddion fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer codi pryderon a bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau lleol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed a gwybod at bwy i droi am gyngor.
Dylech godi pryderon gyda'ch cyflogwr. Fodd bynnag, os na fyddant yn gweithredu ar eich pryder, cysylltwch â'r Rheolwr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol yn AaGIC.
Rhaid i oruchwylwyr addysgol a Hyfforddeion Deintyddol Arbenigol roi gwybod i Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol yn y Bwrdd Iechyd sy’n ymwneud â’r Hyfforddai, a datgan unrhyw ymchwiliadau cyfredol gan y GDC, y Bwrdd Iechyd neu unrhyw ymchwiliad arall sy’n gysylltiedig â’u gwaith fel deintydd.