Lansiwyd system rheoli dysgu AaGIC, Y Ty Dysgu (YTD) ar 1 Awst 2023. Gallwch gofrestru ar Croeso! - Ytydysgu Heiw
Cafodd Maxcourse ei ddadgomisiynu ar 31 Gorffennaf 2023. Anfonwyd nifer o negeseuon cyfathrebu at y proffesiwn i roi gwybod am y camau gweithredu gofynnol yr oedd yn ofynnol i'r proffesiwn deintyddol eu cymryd. Roedd hyn er mwyn cadw unrhyw gofnodion DPP a gafwyd gan Maxcourse.
Bydd AaGIC yn cadw cofnod o bresenoldeb o'r system flaenorol, Maxcourse, fel tystiolaeth o hyfforddiant DPP a gwblhawyd gyda ni. Cedwir y wybodaeth hon am 10 mlynedd yn dilyn dyddiad yr hyfforddiant er mwyn cydymffurfio â gofynion proffesiynol ar gyfer cofnodion DPP. Mae'r wybodaeth a gedwir gan Maxcourse yn cynnwys enw a chyfeiriad e-bost y defnyddiwr.
Polisi preifatrwydd ar gyfer AaGIC.
Am unrhyw ymholiadau am yr uchod cysylltwch â HEIW.Dental@wales.nhs.uk / Ffôn: 03300 584 219.