Croeso i hyfforddiant arbenigol yng Nghymru.
P’un a ydych yn ymuno â ni o rywle arall yn y DU neu o dramor, rydym yn falch o’ch croesawu i’n cymuned o feddygon preswyl. Os ydych yn newydd i Gymru, mae Hyfforddi Gweithio Byw Cymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am fyw, gweithio a hyfforddi yma. Os ydych yn newydd i’r DU, mae’r Uned Cymorth Proffesiynol yn cynnig cyngor i feddygon o dramor i’ch helpu i ymsefydlu mewn bywyd a gwaith yn y DU.
Gall dechrau swydd newydd deimlo’n brysur. Mae’r adnoddau hyn yn dod â gwybodaeth, canllawiau a chymorth allweddol ynghyd i’ch helpu i gychwyn arni.
Y Tudalennau Gwybodaeth ar gyfer Meddygon Preswyl yw eich man cychwyn cyntaf ar gyfer canllawiau, polisïau, prosesau, diweddariadau a gwybodaeth am y rhaglenni hyfforddi ôl-raddedig meddygol sydd ar gael yng Nghymru. Mae gwefan ehangach AaGIC hefyd yn cynnwys gwasanaethau cymorth, adnoddau lles a chyfleoedd addysgol.
Mae’r Llawlyfr Meddygon Preswyl yn ganllaw cyfeirio cyflym i bolisïau, prosesau a gwybodaeth hyfforddi allweddol.
Mae Taith Hyfforddi’r Meddyg Preswyl, sydd ar Y Tŷ Dysgu, yn adnodd e-ddysgu modiwlaidd sy’n cefnogi meddygon drwy gydol hyfforddiant ôl-raddedig. Mae’n darparu canllawiau clir ar strwythurau hyfforddi, disgwyliadau a phrosesau allweddol, a gellir dychwelyd ato ar wahanol gamau o’r hyfforddiant.
Y Tŷ Dysgu yw’r platfform dysgu a ddefnyddir i gynnal amrywiaeth o gyrsiau a digwyddiadau ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dylai meddygon preswyl gofrestru am gyfrif i gael mynediad at addysgu, modiwlau dysgu ac adnoddau ehangach i gefnogi datblygiad yn erbyn y Fframwaith Galluoedd Proffesiynol Cyffredinol.
Byddwch wedi cael mynediad at Codi, system rheoli hyfforddiant AaGIC.
Cadwch eich manylion personol, cyswllt a chyflogaeth yn gyfredol yn Codi. Mae hyn yn ein helpu i gysylltu â chi ac yn sicrhau bod y rhai sy’n cefnogi eich hyfforddiant yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Mae meddygon preswyl sydd â rhif hyfforddi AaGIC yn cael eu cyflogi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru drwy’r trefniant Cyflogwr Arweiniol Sengl. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn rheoli materion cyflogaeth allweddol gan gynnwys contractau, cyflog, absenoldeb statudol ac addasiadau yn y gweithle.
Mae ap a safle SharePoint Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu mynediad cyflym at adnoddau cyflogaeth, polisïau, ffurflenni a chysylltiadau. Ewch i wefan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gael cyfarwyddiadau lawrlwytho’r ap, rhagor o wybodaeth am gyflogaeth, cymorth a chanllawiau.
Caiff hyfforddiant arbenigol yng Nghymru ei ddarparu ar draws chwe Bwrdd Iechyd.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae gan bob Bwrdd Iechyd Ganolfan Addysg Feddygol sy’n cynnig cymorth lleol drwy gydol eich lleoliad.
Mae rhagor o wybodaeth am y GIG yng Nghymru ar gael ar ein tudalen we ‘Gweithio yn GIG Cymru’.