Rydym wedi cynnwys rhywfaint o wybodaeth ychwanegol isod, a gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Mae digon o gyfleoedd i barhau â'ch datblygiad proffesiynol yn ychwanegol at eich diwrnodau astudio arbenigol penodol. Mae'r rhain yn cynnwys ein Cwricwlwm Generig, Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST) a’n porth arweinyddiaeth Gwella . Gall ein Rhaglen Cymrodoriaeth Hyfforddiant Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) a Chymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) fod o ddiddordeb hefyd.
Llai na Llawn Amser: y nod yw sicrhau bod hyfforddiant LTFT ar gael i gynifer o hyfforddeion cymwys â phosibl. Ewch i'n tudalen we i ddarganfod mwy - LTFT
Uned Cymorth Broffesiynol: mae ein Huned Cymorth Broffesiynol yn darparu arweiniad a gwybodaeth i feddygon dan hyfforddiant, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi a chymorth lles. Ewch i'w tudalen i gael rhagor o wybodaeth - Y Cymorth ar gael.
Cyflogwr Arweiniol Sengl: rydym wedi mabwysiadu model cyflogaeth Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE). Mae hyn yn golygu yn hytrach na newid cyflogwr bob tro y mae hyfforddeion yn cylchdroi, maen nhw'n aros gyda'r un cyflogwr trwy gydol eu hyfforddiant. Nid yn unig y mae hyn yn golygu llai o waith papur ac yn arbed amser, ond hefyd mae’n golygu un cyflogwr parhaus i ddelio â unrhyw bryderon, ymholiadau neu faterion drwy gydol yr hyfforddiant. Ewch i Cyflogwr Arweiniol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cynrychiolwyr dan Hyfforddiant: cynrychiolwyr etholedig yw'r rhain sy'n gweithio gyda ni i wella ein rhaglenni hyfforddiant yn barhaus trwy adborth a gwell cyfathrebu rhwng Hyfforddeion a Phwyllgorau Hyfforddiant Arbennig/Ysgolion Arbenigol. Byddant hefyd yn gallu eich cyfeirio at adnoddau, mentrau a gwasanaethau dan arweiniad hyfforddeion.