Mae AaGIC yn ymrwymedig i alluogi trawsnewidiad ar draws yr holl weithlu Gwyddor Gofal Iechyd, sy’n broffesiwn sy’n allweddol i drawsnewidiad GIG Cymru ac yn ganolog i ddarparu gofal o safon.
Mae addysg a hyfforddiant Gwyddor Gofal Iechyd wedi’u comisiynu gan AaGIC ar draws yr holl lwybr gyrfaoedd, o Gynorthwy-ydd Lefel 3 a 4 i hyfforddiant Ymgynghorydd lefel doethuriaeth a’r tu hwnt. Mae trawsnewid y gweithlu’n ymestyn ymhellach y tu hwnt i hyn, ac mae AaGIC yn arwain ac yn gweithio gyda llawer o raglenni a phrosiectau strategol ar draws GIG Cymru i alluogi arweinyddiaeth a datblygu gyrfa, ailgynllunio rolau a gwasanaethau, cynllunio ar gyfer olyniaeth a llawer mwy ym maes Gwyddor Gofal Iechyd.
Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn disgrifio set fawr o broffesiynau, gyda mwy na 50 o ddisgyblaethau y gellir eu grwpio i 5 maes:
Mae Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn 5% o weithlu’r GIG ac maent yn rhan o 80% o benderfyniadau clinigol. Maent yn arwain Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ledled Cymru’n aml, yn ysgogi ansawdd a diogelwch, ymchwil ac arloesi, ac mae Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn gweithio ar reng flaen datblygiadau clinigol a thechnolegol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Ynglŷn â Gwyddor Gofal iechyd.
Ar 23 Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth GIG Cymru, fframwaith Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru – Edrych tuag at y Dyfodol. Mae’r ddogfen yn disgrifio rhaglen o weithgareddau a gynlluniwyd i arwain Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru i’r dyfodol ac achub ar y cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno yng Nghynllun Hir Dymor ar gyfer GIG Cymru.
Mae’r Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd sy’n ganlyniad wedi cael ei rheoli gan AaGIC ers 1 Hydref 2020, gyda Thîm Rhaglen sy’n arbenigo mewn rheoli rhaglenni strategol. Drwy weithio matrics ar draws holl dimau AaGIC, gan gynnwys comisiynu a darparu addysg aml-broffesiynol, arweinyddiaeth, gyrfaoedd, Gwnaed yng Nghymru, cynllunio gweithlu, cyfathrebu a dysgu digidol, yn ogystal â gweithio’n eang ar draws GIG Cymru a llawer o sefydliadau cenedlaethol, mae’r tîm wedi gallu dangos gwerth y rhaglen hon fel rhan o waith Trawsnewidiad AaGIC.
Mae Tîm y Rhaglen yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y rhaglen gymhleth ac aml-ochrog hon yn llwyddiannus, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd a thîm polisi Gwyddor Iechyd Llywodraeth Cymru, a gweithio gyda Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd hirsefydlog a dylanwadol a’r holl broffesiwn gwyddor gofal iechyd ledled GIG Cymru.
Mae rhyddhau a manteisio ar botensial y gweithlu Gwyddor Gofal Iechyd o bwysigrwydd hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau mae GIG Cymru bellach yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Uchelgais y rhaglen waith hon yw creu amgylchedd yn GIG Cymru lle gall Gwyddor Gofal Iechyd ffynnu drwy sefydliad cydnabyddiaeth gyffredinol o’r proffesiwn, hyrwyddo ystod amrywiol o ddewisiadau gyrfa gwerthfawr sy’n rhoi boddhad a galluogi gwyddonwyr gofal iechyd i gydweithio er mwyn cyflawni pob rhan o weledigaeth Edrych tuag at y Dyfodol GIG Cymru.
Mae’r Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd yn allweddol i’r cydweithio hwnnw ledled Cymru ac mae wedi’i ddisgrifio yn fframwaith Edrych tuag at y Dyfodol fel y grŵp proffesiynol sydd wrth wraidd y Rhaglen Gwyddor Gofal iechyd. Crëwyd y grŵp hwn o Wyddonwyr Gofal Iechyd am y tro cyntaf yng nghamau cynnar datblygu Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yn Nghymru ac mae’n parhau i ddatblygu, gan ddylanwadu nid yn unig o fewn Cymru ond ar draws y DU.
Gwyddor Gofal Iechyd Cymru … crëwyd logo ac arwyddair “Gwireddu Uchelgeisiau Yfory, Heddiw!”. Mae adnoddau ar gael i’w defnyddio gan holl Wyddonwyr Gofal iechyd ar draws GIG Cymru: Adnoddau Gwyddor Gofal Iechyd Cymru
Cynhelir digwyddiadau rheolaidd ledled y flwyddyn, a’r uchafbwynt yw cynhadledd Gwyddor Gofal Iechyd Cymru flynyddol; rhagor o fanylion yma: Newyddion a Digwyddiadau Gofal Iechyd.
Mae’r Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd yn un rhan yn unig o gyfranogiad AaGIC mewn trawsnewid y proffesiwn yn GIG Cymru. Mae Trawsnewid Gwyddor Gofal Iechyd a thimau ar draws AaGIC yn darparu arbenigedd gweithlu ac addysg i raglenni diagnostig aml-ddisgyblaethol cenedlaethol ym meysydd Delweddu, Patholeg, Endosgopi, Genomeg a Thomograffeg Allyru Positronau (PET), rhwydweithiau clinigol a grwpiau proffesiwn.
Am ragor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar Drawsnewid Gwyddor Gofal iechyd, e-bostiwch y Tîm Rhaglenni: HEIW.HCS@wales.nhs.uk