Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar yr Egwyddorion Arweinyddiaeth Tosturiol drafft ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru nawr ar agor

Mae'r ymgynghoriad ar yr Egwyddorion Arweinyddiaeth Tosturiol drafft ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru bellach ar agor. Rydym yn croesawu adborth ar yr egwyddorion drafft hyn erbyn 10 Ebrill 2020.

Mae'r egwyddorion hyn wedi'u cyd-gynllunio gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gyda mewnbwn gan yr Athro Michael West, a'r Grŵp Llywio Arweinyddiaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r ddau sector, Academi Cymru a Llywodraeth Cymru.

Maent wedi'u seilio ar dystiolaeth gadarn a ddatblygwyd dros 30 mlynedd gan arbenigwyr yn y maes. Maent yn adlewyrchu'r adborth a gafwyd yn sgil yr ymgysylltu sylweddol yn ystod y broses o ddatblygu strategaeth ddrafft y gweithlu ar gyfer Gofal & Iechyd, yn ogystal â digwyddiadau mwy diweddar megis ein cynhadledd arweinyddiaeth yn yr Hydref.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori chwe wythnos byddwn yn mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau allweddol o'r rhwydwaith, gyda'r nod o siarad â chynifer o bobl â phosibl. Os hoffech siarad â ni am yr egwyddorion neu'r rhaglen ehangach o weithgareddau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Ceir gwybodaeth lawn am sut i gyflwyno eich sylwadau ar yr egwyddorion drafft yn y llythyr atodedig.