Neidio i'r prif gynnwy

Sbotolau -- Dr Geetanjali Ratnalikar -- Tiwtor Staff ac Arbenigwr Cyswllt (SAS), Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Mae SAS yn grŵp amrywiol o feddygon sy'n dod o gefndiroedd gwahanol ac yn gweithio ar draws arbenigeddau amrywiol gydag ystod eang o setiau sgiliau. Mae llawer ohonynt mewn rolau blaenllaw ac yn gweithio'n annibynnol ar lefel uwch.

Maent wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol meddygol parhaus i wasanaethu eu cleifion yn well yn ogystal â diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau.

 

Y mis hwn, dewch i gwrdd â Geetanjali, ein tiwtor SAS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Fel Tiwtor SAS, ei rôl yw hwyluso hyfforddiant a dilyniant gyrfa meddygon SAS yn ei Bwrdd Iechyd.

 

Mae hi wedi bod yn y swydd ers dwy flynedd er bod Geetanjali wedi byw a gweithio yn Abertawe ers blynyddoedd lawer. Mae hi wedi bod yn gweithio fel Meddyg Arbenigol mewn Dermatoleg ers dros 14 mlynedd ac ar hyn o bryd mae wedi'i lleoli yn Ysbyty Singleton, Abertawe.  Cyn hynny, bu'n hyfforddi ac yn gweithio fel meddyg teulu yn lleol.  Dros y blynyddoedd, mae wedi cynrychioli Dermatolegwyr SAS yng Nghymdeithas Dermatolegydd Prydain a Fforwm Dermatoleg Cymru.

 

Fel Tiwtor SAS, mae Geetanjali wedi trefnu amryw o gyrsiau DPP ar bynciau megis ymgynghori o bell, cadw cofnodion da, ystyried galluedd meddyliol a cheisio caniatâd dilys, trin plant a phobl ifanc ac ati. Yn ogystal, trefnodd 2 ddiwrnod llawn DPP allanol a ariannwyd gan AaGIC ar “Ymchwil a Methodoleg Wyddonol” a “Lles, Hunan dosturi a hunanofal”.

 

Ei nod yw ffurfio grŵp llywio sy'n gweithio gyda'r cyfarwyddwr meddygol, cyfadran hyfforddi Prifysgol Abertawe, Eiriolwr SAS ac AD Meddygol ar gyfer dull integredig o weithredu Siarter SAS.

Mae ei diddordebau eraill yn cynnwys teithio, trefnu blodau a darllen.

 

Hoffai Geetanjali glywed gennych os oes gennych unrhyw ymholiadau neu syniadau sy'n ymwneud â hyfforddiant SAS a gellir cysylltu drwy e-bost: Geetanjali.Ratnalikar@wales.nhs.uk

 

Mae adnoddau a gwybodaeth bellach ar gael:

https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/meddygon-sas/

https://www.bma.org.uk/advice-and-support/career-progression/sas-development/the-sas-charter

https://www.rcp.ac.uk/projects/outputs/positive-career-choice-supporting-sas-doctors-wales

 

Cyhoeddwyd 4 Awst 2023