Neidio i'r prif gynnwy

Dros £730k wedi'i fuddsoddi i ehangu lleoliadau nyrsio mewn cartrefi gofal

Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain ar brosiect gwerth £730k a fydd yn hyrwyddo ac yn ehangu mynediad i yrfa ym maes nyrsio gofal cymdeithasol.

Bydd cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn creu tri Hwylusydd Addysg Cartrefi Gofal (CHEF) rhanbarthol a fydd yn gweithio yn y sector cartrefi gofal yng Nghymru.

Mae rolau tebyg eisoes wedi'u hymgorffori'n gadarn mewn gwasanaethau nyrsio a bydwreigiaeth mewn Byrddau Iechyd yng Nghymru i gefnogi myfyrwyr nyrsio drwy eu hyfforddiant a'u lleoliadau. Byddant yn helpu i wella ansawdd addysg glinigol myfyrwyr tra'n cefnogi staff darparwyr iechyd yn uniongyrchol. 

Rhagwelir y bydd rolau newydd CHEF yn darparu cymorth tebyg o fewn y sector cartrefi gofal ac y byddant yn rhychwantu taith gyfan y myfyriwr, gan gynnwys cymryd rhan mewn recriwtio a dethol, hwyluso capasiti lleoliadau, darparu hyfforddiant goruchwylwyr ac aseswyr a monitro ansawdd amgylcheddau dysgu. Byddant hefyd yn cefnogi staff i helpu myfyrwyr i fodloni eu hyfedredd, hyd at y pwynt cofrestru a chefnogi praeseptoraethau cofrestryddion newydd.

Dywedodd Angela Parry, Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro AaGIC: "Rydym yn cynyddu nifer y lleoliadau yn y sector cartrefi gofal ar gyfer myfyrwyr nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae cartrefi gofal yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer addysgu a dysgu ac mae manteision sylweddol o recriwtio myfyrwyr i hyfforddi mewn cartrefi gofal o'u cwmpas sy'n ystyried y sector ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

"Bydd y rolau hyn yn cryfhau trefniadau cymorth i fyfyrwyr yn sylweddol rhwng cartrefi gofal unigol a phrifysgolion, gan fanteisio i'r eithaf ar gapasiti lleoliadau myfyrwyr a sefydlu modelau arloesol o ddysgu ymarfer."

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw at y gwaith partneriaeth a thîm hanfodol rhwng y GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Mae ein strategaeth "Cymru Iachach" yn cydnabod bod system iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor, sy'n cydweithio, yn hanfodol i helpu pobl i gadw'n iach ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd.

"Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i sefydlu cyfleoedd lleoli ymarfer myfyrwyr newydd mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn ogystal â gwella ansawdd lleoliadau sy'n bodoli eisoes. Rhoi profiad bywyd go iawn i fyfyrwyr nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i faes iechyd mewn cartrefi gofal a fydd yn eu helpu drwy gydol eu gyrfa. Bydd y mewnwelediad hwn yn amhrisiadwy i ddeall sut mae'r GIG a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r gofal gorau i bobl ledled Cymru."