Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig deniadol newydd i weithwyr deintyddol i wella gofal deintyddol yng nghefn gwlad Cymru

Mae menter recriwtio newydd sy'n ceisio annog darpar ddeintyddion sy'n hyfforddi i fanteisio ar gyfleoedd ar draws y Gymru wledig wedi cael ei lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r rhan fwyaf o raddedigion deintyddol newydd yn dewis cwblhau eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen (DFT) blwyddyn mewn practis deintyddol. Fodd bynnag, mae gwell gan lawer o raddedigion deintyddol wneud eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen mewn ardaloedd mwy trefol, gan adael rhai practisau mewn rhannau gwledig o Gymru heb adnoddau digonol a swyddi heb eu llenwi.

Yn 2021/22, cafodd 6% o'r swyddi gwag eu gadael heb eu llenwi. Golygai hyn fod yn rhaid rhoi pecynnau cymorth ar waith yn gyflym ar gyfer y practisau hyn, a gostyngwyd gallu’r boblogaeth leol yn yr ardal honno i gael gofal y GIG.

Fel ateb, mae AaGIC wedi lansio Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen Cynnig Recriwtio Estynedig Cymru (DFT WERO), menter newydd i annog hyfforddeion i gwblhau eu hyfforddiant mewn practis gwledig a chynyddu gwasanaethau deintyddol i bobl yr ardal. Menter newydd yw hwn sy'n cynnig pecyn cymorth estynedig i hyfforddeion sy'n cyflawni Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen mewn bractisau deintyddol gwledig yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru.

Mae'r pecyn newydd hwn yn cynnwys manteision fel:

  • £5,000 grant byw mewn ardaloedd gwledig
  • diwrnod astudio wythnosol
  • aelodaeth coleg brenhinol ffioedd arholiadau dan sylw AaGIC
  • cyllideb astudio £600 tuag at baratoi ar gyfer arholiadau
  • adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim
  • cymorth lles.

Dywedodd Kirstie Moons, Deon Ôl-raddedig Deintyddol AaGIC "Rwy'n falch iawn y gall AaGIC gynnig cymhellion lleol i dyfu a chadw ein gweithlu deintyddol mewn ardaloedd sy’n draddodiadol anodd recriwtio iddynt yng Nghymru. Mae'r fenter hon yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac yn sicrhau bod gofal deintyddol y GIG yn parhau ar gyfer pobl yng nghefn gwlad Cymru. Ar yr un pryd mae’n diogelu'r lleoedd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen yn y practisau deintyddol hyn ar gyfer deintyddion sydd newydd gymhwyso i wneud cais iddynt mewn blynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd William Howell, perchennog practis yn Neintyddfa Aberteifi sy’n cynnig lle ar gyfer hyfforddiant deintyddol, “Mae Aberteifi yn cynnig gymaint o’r dref i hyn sy’n ffynnu i’w thraethau hyfryd a’i chefn gwlad. Mae gan ein deintyddfa newydd gyfleusterau o’r radd flaenaf, staff profiadol sydd yn angerddol am addysgu a chyfleoedd gwaith posib unwaith bod hyfforddiant wedi cael ei gwblhau. Byddwn yn gwneud pob dim er mwyn rhoi croeso i’r hyfforddai ac rwy’n sicr byddent yn disgyn mewn cariad gyda’r ardal fel rydym ni wedi.”

Bydd y fenter yn agor i raddedigion newydd a graddedigion sydd ar y gweill o ysgol Ddeintyddol gydnabyddedig sydd â chysylltiad presennol â Chymru ym mis Chwefror 2023.