Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun newydd i wella gwasanaethau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn gweithredu nawr i ddatblygu gweithlu allai ymateb i’r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol.

Y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’n adnabod fod amrywiaeth eang o staff, gwirfoddolwyr a gyrfaoedd yn cyfathrebu gyda phobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â’r timoedd amlddisgyblaethol sy’n gweithio yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn benodol.

Mae’r cynllun uchelgeisiol yma yn anelu i ddarparu platfform cryf i ddatblygu sgiliau a capacity o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn edrych i lywio gwelliant mewn ataliad ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal â dod i’r afael a’r heriau a phwysau ar wasanaethau ar gyfer pobl gydag anghenion iechyd meddwl cronig a pharhaus.

Ei fwriad yw cael effaith ar feysydd allweddol yn cynnwys ansawdd a mynediad at wasanaethau, cynaladwyedd gwasanaethau, ac iechyd a lles staff. 

Wrth lansio'r cynllun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle:

“Mae datblygiad cynllun hirdymor ar gyfer gweithlu iechyd meddwl yn weithred allweddol yn ein Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, i gefnogi gwelliant mewn gwasanaeth ac i sicrhau gweithlu iechyd meddwl sefydlog a cynaliadwy”

“Mae gennym weithlu iechyd meddwl medrus iawn yng Nghymru. Rwy’n croesawu lansiad y cynllun, fydd yn cefnogi gwelliannau gwasanaeth ac yn helpu cyd drefnu gweithrediadau ar draws sefydliadau ac ar draws Cymru. Bydd gweithredu’r cynllun newydd hefyd yn sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn cael y profiad i ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach.”

Dywedodd Alex Howells, Prif Swyddog Gweithredol AaGIC “Mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth gritigol, a datblygu’r gweithlu yw’r ffordd orau i sicrhau fod pobl yn derbyn y gofal gorau posib. Rydym yn gobeithio bydd y cynllun hwn yn wir rhoi gweithlu iechyd meddwl ar y map ac yn cynhyrchu momentwm positif ar gyfer newid.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr GCC, “Fe wrandawom ar y bobl sydd yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl a’r rheiny sy’n derbyn cymorth a gwasanaeth gan y gweithlu, i’n helpu ni ddeall yn eglur beth sy’n bwysig iddynt hwy. Mae’r cynllun yn adlewyrchiad o’r cyfathrebu hynny, a bydd yn helpu’r newid sydd angen digwydd, a helpu i wella’r ffordd rydym yn cefnogi, gwerthfawrogi a datblygu ein gweithlu.”

Gellir gweld copi o'r cynllun ar ein gwefan.