Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun i Gynorthwyo Diogelu'r Blaned

Efallai eich bod wedi clywed yr holl siarad yn ddiweddar am gynhadledd COP26. Dyma le mae arweinwyr y byd yn dod at ei gilydd i siarad am newid yn yr hinsawdd a sut i fynd i'r afael ag ef. Credant mai'r digwyddiad hwn yw'r cyfle gorau yn  y byd i gael newid yn yr hinsawdd o dan reolaeth!

Roeddem o'r farn y byddai hwn yn amser da i gyhoeddi Strategaeth Bioamrywiaeth a Datgarboneiddio AaGIC yn llawn. Bwriad y strategaeth newydd hon yw helpu staff AaGIC ac eraill i gymryd camau cadarnhaol i wneud newidiadau mewn bywyd gwaith a phersonol.

Mae'n cefnogi Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru Llywodraeth Cymru a lansiwyd ym mis Mawrth 2021.

Mae strategaeth AaGIC yn nodi dyheadau a bwriadau lefel uchel ein sefydliad i fodloni gofynion, i alw ei staff, ei rhanddeiliaid, ei phartneriaid a'i gyflenwyr i weithredu, ac i wneud newidiadau cadarnhaol yn awr i gyflawni nodau tymor hwy i Gymru.

Yn unol â deddfwriaeth a chynlluniau cenedlaethol, mae strategaeth AaGIC yn canolbwyntio ar bedwar maes gweithredu allweddol. Y rhain yw:

  • Ymgysylltu a chefnogi ein staff
  • Caffael cynaliadwy
  • Datblygu ein swyddfa, Tŷ Dysgu a chefnogi ein cymunedau lleol
  • Cynaliadwyedd amgylcheddol

Dywedodd Alex Howells, Prif Swyddog Gweithredol AaGIC, "Newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i iechyd pobl. Cysylltir aer llygredig a thymheredd cynyddol â phroblemau iechyd mawr, o drawiadau ar y galon a strôc, i ledaeniad clefyd heintus a thrawma seicolegol. Rhaid inni weithredu'n awr i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Mae'r cyfrifoldeb hwn yn gorwedd gyda phob un ohonom. Rwyf mor falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma o fewn AaGIC a bydd y strategaeth hon yn ein galluogi i ddechrau symud y diwylliant, nid yn unig yn AaGIC ond o fewn y GIG ehangach yng Nghymru a'r DU, i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer ein planed ac iechyd pobl Cymru."

Rydym wrthi'n gweithio tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus di-garbon net yng Nghymru erbyn 2030. Mae hyn yn golygu ein bod yn anelu at gydbwyso faint o nwy tŷ gwydr a gynhyrchir a'r swm a dynnwyd o'r atmosffer.

Yn Nhŷ Dysgu, rydym eisoes wedi gosod goleuadau LED, yn defnyddio trydan gwyrdd, wedi datblygu cynllun ailgylchu a dargyfeirio 100% o'n gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi. Rydym hefyd yn annog ein staff a'n rhanddeiliaid i wneud newidiadau cynaliadwy yn eu bywydau a darparu gwybodaeth am sut y gallant wneud gwahaniaeth.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sbarduno lleihau carbon a chefnogi bioamrywiaeth. Mae AaGIC yn falch o fod yn rhan o'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac i fod yn gweithio tuag at adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy.