Mae'n blatfform ar-lein arloesol, cwbl ddwyieithog i hysbysu ac ysbrydoli unigolion am yr ystod eang o yrfaoedd a llwybrau o fewn y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Tregyrfa yn targedu dysgwyr a phobl ifanc 14 i 18 oed yn bennaf ond byddai hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n chwilio am wybodaeth am yrfaoedd iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae'r platfform rhad ac am ddim ar gael i ddysgwyr, athrawon, rhieni neu warcheidwaid, a chynghorwyr gyrfaoedd. Mae Tregyrfa yn gartref i amrywiol elfennau o ddarpariaeth iechyd a gofal a'r gyrfaoedd cysylltiedig sydd ar gael.
Gall ymwelwyr â Thregyrfa lywio drwy'r pentref rhithwir a mynd i mewn i adeiladau amrywiol. O fewn y rhain mae modd iddyn nhw gael gwybodaeth am wahanol rolau iechyd a gofal, cyrchu adnoddau, gwylio fideos a darllen blogiau i gael mewnwelediad go iawn i’r gwaith a wneir o fewn y GIG a gwasanaethau iechyd a gofal ehangach yng Nghymru.
Gall ymwelwyr â'r safle archwilio chwe maes proffesiynol ar hyn o bryd:
Mae adnoddau gyrfa ehangach yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Sgiliau, gan gynnwys y gyfres Bydd Wych, sy'n cynnwys fideos ar gyfweliadau, a chyngor ymgeisio am brifysgolion a swyddi.
Ceir hefyd y Gornel Gymraeg sy'n arddangos gwerth siarad Cymraeg yn y gweithle, ar bob lefel hyfedredd.
Sinema AaGIC. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau datblygu gyrfa gan gynnwys cefnogaeth gyda cheisiadau UCAS, sgiliau cyfweliad a gweminarau generig a phenodol i broffesiynau.
Bydd datblygiad Tregyrfa yn broses barhaus, gyda meysydd proffesiynol a gwybodaeth yn cael eu hychwanegu’n gyson dros y misoedd nesaf.
Rydym am i Dregyrfa ddod yn blatfform gyfer popeth sy'n ymwneud â Gyrfaoedd y GIG.