Mae nyrs oedolion yn gofalu am bobl sy’n sâl, yn anabl ac yn marw yn ogystal â hyrwyddo iechyd ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Eu nod yw gwella ansawdd bywyd yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt.
Fel nyrs oedolion bydd angen i chi fod yn:
Me nyrsys oedolion yn gofalu am gleifion sy’n oedolion o bob oed sy’n dioddef o un neu fwy o gyflyrau iechyd corfforol hir neu byr-dymor. Gall yr amodau/sefyllfaoedd hyn gynnwys:
Bydd y nyrs yn asesu’r claf, cynllun gofal y claf a darparu’r gofal sydd ei angen, tra’n gweithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol (MDT).
Mae nyrsys oedolion yn cael y cyfle i weithio mewn nifer o lefydd, gan gynnwys:
Yn y GIG, ar lefel mynediad mae nyrs yn dechrau ar fand 5; gweler ein adran Tâl a Buddion am fwy o wybodaeth.
Unwaith y byddwch wedi cymhwyso ac wedi ennill profiad clinigol mae nifer o opsiynau cyflogaeth ar gael, gan gynnwys:
Oes angen gradd arna i? | Oes. Os yr ydych am weithio fel nyrs oedolion, bydd angen i chi gwlbhau cwrs wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. |
Ble galla i hyfforddi yng Nghymru? |
Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth. |
Oes cyllid ar gael? | Oes, i gael rhagor o wybodaeth am gyllid sydd ar gael ac i ddarganfod os yr ydych yn gymwys ymwelwch â’r Gwasanaeth Gwobreuo Myfyrwyr. |
Sut ydw i i’n cael profiad? | I gael gwybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn GIG Cymru ewch i’n hadran Gwaith. |
Sut mae modd ceisio am swydd? | Mae pob swydd wag ar gyfer GIG Cymru yn cael eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’n hadran Gwaith am ragor o wybodaeth. |