Mae nyrsio iechyd meddwl yn rôl hynod o amrywiol yn amrywio o weithio gyda phlant i weithio gyda’r genhedlaeth hŷn. Mae’r gwaith yn cynnwys helpu unigolion i wella ar ôl eu salwch neu i ddod i delerau ag ef, er mwyn iddynt allu byw bywydau cadarnhaol ac annibynnol.
Mae nyrsio iechyd meddwl yn ddewis gyrfa sy’n gofyn llawer ond sydd hefyd yn un gwerth chweil a all fod yn llawn profiadau fydd yn newid eich bywyd. Mae helpu pobl i adfer eu hiechyd meddwl yr un mor werthfawr â gofalu am y rhai sydd â salwch corfforol, ac mae’n rhoi’r un boddhad.
Mae rhaid i nyrs iechyd meddwl allu cydymdeimlo a pheidio â bod yn feirniadol. Bydd rhaid ichi allu cydweithio â phobl ifanc, ennill eu hymddiriedaeth a meddu ar y gallu i reoli sefyllfaoedd emosiynol. Cysylltir y risg o drais â nyrsio iechyd meddwl yn aml, ac mae angen nifer o sgiliau i sylwi ar ddatblygiad tyndra ac i dawelu’r dyfroedd, gan gynnwys sgiliau:
Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio gyda phobl sy’n dioddef o ystod eang o broblemau iechyd meddwl. I rai pobl, caiff salwch meddwl ei sbarduno gan ddigwyddiad megis ysgariad, marw rhywun agos, rhoi genedigaeth, alcohol a chamdrin cyffuriau mewn amgylchiadau personol, gan gynnwys yn y gwaith.
Mae llawer o waith nyrsys iechyd meddwl yn cynnwys hyrwyddo lles meddyliol, gweithio gyda phobl sy’n dioddef o broblemau salwch meddwl difrifol ynghyd â chefnogi pobl sydd wedi dioddef o broblemau salwch meddwl wrth iddynt wella. A hwythau wedi derbyn hyfforddiant ynghylch cyd-destun cyfreithiol y gwaith, gall nyrsys iechyd meddwl adnabod person a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain neu rywun arall, ynghyd ag adnabod pryd.
Fel nyrs iechyd meddwl, byddwch yn rhan ganolog o dîm gofal amlddisgyblaethol, ar y cyd â bod yn gyd-lynydd gofal sylfaenol yn aml. Gan gydweithio â meddygon, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a chynorthwywyr gofal iechyd ymhlith eraill, byddwch yn datblygu perthnasau da â chydweithwyr, eich cleifion a’u teuluoedd fel bod gan bawb ran yn y broses.
Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau, ond fel arfer maent yn gweithio mewn ysbytai neu yn y gymuned, gan mai yno y darperir y rhan fwyaf o ofal iechyd meddwl. Yn y gymuned, mae nyrsys iechyd meddwl yn y gweithio yn y lleoliadau canlynol:
Mewn ysbytai, gall nyrsys iechyd meddwl weithio yn y lleoliadau canlynol:
Yn GIG Cymru, band 5 yw’r gyflog ddechreuol ar gyfer nyrs sydd newydd gofrestru. Am ragor o wybodaeth ynghylch bandiau a chyfraddau tâl, ewch i'n tudalen Tâl a Buddion.
Mae iechyd meddwl yn cynnig nifer o ddewisiadau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Unwaith ichi gymhwyso ac ennill ychydig o brofiad clinigol, gallwch chi ddod yn:
Efallai y byddwch chi am ystyried meysydd gwahanol i nyrsio megis swyddi yn y therapïau seicolegol, er enghraifft ymarferydd lles seicolegol, neu therapydd dwysedd uchel.
Oes angen gradd arna i? | Oes, os ydych chi am weithio yn y GIG bydd angen ichi gwblhau cwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. |
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru? |
Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth. |
Oes cyllid ar gael? | Oes, ewch i’r Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ac i weld a ydych yn gymwys. |
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? | Os oes gennych chi radd berthnasol a phrofiad ym maes gofal iechyd eisoes, gall fod yn bosibl ichi ymgymryd â diploma ôl-raddedig neu radd feistr mewn nyrsio. |
Sut mae ennill profiad? | I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith. |
Sut galla i ymgeisio am swydd? | Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’n gwefan Gwaith am fwy o wybodaeth. |