Pan fo therapyddion iechyd galwedigaethol yn siarad am ‘alwedigaeth’, byddant yn sôn am yr holl weithgareddau y mae pobl eu gwneud, sy’n cynnwys:
Weithiau, gall salwch, anabledd, heneiddio neu newid i’ch amgylchiadau personol olygu ei bod yn anos i wneud rhai o weithgareddau normal neu arferol bywyd.
Mae Therapi Galwedigaethol yn yrfa addas i bobl sy’n meddu ar y canlynol:
Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu pobl o bob oedran i wneud y gweithgareddau sy’n bwysig iddynt. Byddant wedyn yn datblygu cynllun gyda’r person, a chyda’u gofalwyr os yw’n briodol.
Mae therapyddion galwedigaethol yn darparu cymorth i’r bobl hynny y mae eu hiechyd yn eu rhwystro rhag gwneud y gweithgareddau sy’n bwysig iddynt. Gall therapydd galwedigaethol nodi pa gryfderau ac anawsterau sydd gennych chi yn eich bywyd bob dydd, megis gwisgo, coginio, mynd i’r siopau, neu aros yn y gwaith a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol. Gall hyn fod oherwydd bod gennych:
Ar ôl nodi’r anawsterau mae unigolyn yn eu hwynebu wrth wneud tasgau pob dydd, gall therapyddion galwedigaethol helpu gan wneud un o’r canlynol:
Yn greiddiol i bob un o’r newidiadau hyn mae ffocws y therapydd galwedigaethol ar helpu'r claf i gynnal a gwella eu gallu i wneud tasgau pob dydd.
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys:
Fel arfer mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio 37.5 awr yr wythnos yn y GIG. Yn aml, mae'r rhain yn ystod yr wythnos o fewn oriau swyddfa. Serch hynny, mae angen cynyddol i Therapyddion Galwedigaethol weithio ar y penwythnos neu’n gynharach neu’n hwyrach yn y dydd, a hynny er mwyn bodloni anghenion y bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw.
Yn y GIG, mae therapydd galwedigaethol cymwys ar lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.
Unwaith ichi ymgymhwyso ac ennill ychydig o brofiad clinigol, mae nifer o ddewisiadau cyflogaeth ar gael, gan gynnwys:
Oes angen gradd arna i? | Oes. Os ydych chi am weithio fel Therapydd Galwedigaethol, bydd angen i chi gwblhau gradd. Yn ogystal â hyn, bydd yn rhaid ichi gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd ar ôl ymgymhwyso. |
Ymhle y galla i hyfforddi yng Nghymru? | Cynigir cyrsiau gradd Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr (Wrecsam). Cynigir cyrsiau ledled y DU mewn 31 o brifysgolion. |
Oes cyllid ar gael? | Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr. |
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? | Os oes gennych chi radd berthnasol a phrofiad ym maes gofal iechyd eisoes, gall fod yn bosibl ichi wneud cwrs ôl-raddedig. Yng Nghymru, cynigir y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cymhwyster MSc ychwanegol ar gael hefyd. |
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? |
Mae cyngor pellach ar gael yn y Llawlyfr Therapi Galwedigaethol. I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith. |
Sut y galla i ymgeisio am swydd? |
Hysbysebir pob swydd yn GIG Cymru ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth. Hysbysebir swyddi mewn awdurdodau lleol gan sefydliadau unigol fel arfer ar eu gwefan eu hunain. Hysbysebir rolau sydd wrthi’n codi yn y maes, fel gweithio i’r trydydd sector, yn unigol gan sefydliadau. |