Mae ffisiotherapyddion yn helpu pobl i fod yn annibynnol am mor hir â phosibl. Maent yn cynorthwyo pobl i wella trwy eu helpu i symud a chwblhau tasgau’n well pan fydd rhywun wedi cael ei effeithio gan anaf, salwch neu anabledd. Yr hyn sydd wrth wraidd ffisiotherapi yw cynnwys y claf yn ei ofal a’i driniaeth ei hun trwy addysgu, cynghori a chyfranogi.
Mae ffisiotherapi yn broffesiwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, felly bydd angen i chi fod â diddordeb mewn anatomeg, ffisioleg a gwyddor iechyd.
Fel ffisiotherapydd, bydd angen i chi fod yn:
Gan ddefnyddio dull ‘person cyfan’ o wella iechyd a lles (gan gynnwys ffordd gyffredinol y claf o fyw), mae ffisiotherapyddion yn gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau o bob math, fel:
Pan fydd ffisiotherapydd wedi asesu’r broblem, byddant yn penderfynu sut i’w drin. Gall hyn fod trwy symud ac ymarfer corff, neu therapi â llaw (fel tylino).
Mae hyfforddi a gweithio fel ffisiotherapydd yn rhoi cyfle i chi weithio mewn lleoliadau o bob math, gan gynnwys:
Yn y GIG, byddai swydd lefel mynediad ffisiotherapydd cymwys yn dechrau ar Fand 5; Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.
Mae ffisiotherapi’n cynnig nifer o ddewisiadau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Pan fyddwch wedi cymhwyso ac wedi ennill profiad clinigol, gallwch fod yn:
A oes angen gradd arnaf? | Oes, os hoffech weithio yn y GIG, bydd angen i chi gwblhau cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal |
Ym mhle galla i gael fy hyfforddi yng Nghymru? | Prifysgol Caerdydd. |
A oes cyllid ar gael? | Oes, ewch i’r Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ac i weld a ydych yn gymwys |
A oes cyfleoedd i ôl-raddedigion? | Mae gwefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn rhoi manylion am raglenni ôl-raddedig a gymeradwywyd yn y DU. |
Sut galla i ennill profiad? |
I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith. Mae gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP) wybodaeth ddefnyddiol am ennill profiad gwaith. |
Sut galla i ymgeisio am swydd? |
Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs; ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth. Mae gan y CSP adran swyddi hefyd. |