Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Gyrfa Strategol ar gyfer GIG Cymru

Mae’r Fframwaith Strategol ar gyfer Gyrfaoedd GIG Cymru yn gosod y cyfeiriad i greu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodo

Fel y cyflogwr mwyaf yng Nghymru a gyda dros 350 o rolau ar gael, mae gan GIG Cymru lawer i’w gynnig. Fodd bynnag, yn aml nid yw pobl yn ymwybodol o ehangder y cyfleoedd sydd ar gael na sut i gael mynediad atynt.

Mae’r fframwaith strategol yn amlinellu’r egwyddorion o ran sut y byddwn yn:

  • arwain yr agenda atyniad gyrfaoedd iechyd
  • nodi blaenoriaethau
  • gosod y cyfeiriad a'r safonau ar gyfer atyniad gyrfaoedd iechyd

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid, o wahanol sectorau ledled Cymru, i gyflawni ein gweledigaeth a’n huchelgais ar y cyd.

Ein gweledigaeth
datblygu gweithlu sy’n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth

Ein nod
i ysbrydoli, hysbysu a dylanwadu ar unigolion o bob oed i chwilio am yrfaoedd yn GIG Cymru

Ein dull

Mae pedair thema yn darparu pensaernïaeth gyffredinol y fframwaith strategol a byddant yn arwain ein hymagwedd at ddenu gyrfaoedd a marchnata:

Cyfrannu at ddyfodol uchelgeisiol GIG Cymru

Datblygwyd y Fframwaith Strategol ar gyfer Gyrfaoedd GIG Cymru i ymateb i uchelgais y strategaeth gweithlu 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol i sefydlu brand cryf ac adnabyddadwy a dod yn sector o ddewis ar gyfer gweithlu’r dyfodol erbyn 2030.

Gweld y Fframwaith Strategol ar gyfer Gyrfaoedd GIG Cymru

Dyfynnu

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2024), Fframwaith Strategol ar gyfer Gyrfaoedd GIG Cymru

Adnoddau