Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio gweithlu gofal sylfaenol

Cafodd y dull o gynllunio'r gweithlu mewn gofal sylfaenol ei ddatblygu fel cynllun peilot, mewn partneriaeth â dau Glwstwr Meddygon Teulu a Sgiliau Iechyd er mwyn darparu methodoleg symlach i bractisau a chlystyrau ei defnyddio i greu eu cynlluniau ar gyfer y gweithlu ac i gefnogi gofynion Cynlluniau Tymor Canolig Integredig y Clwstwr.  Mae lansio system adrodd gweithlu Cenedlaethol Cymru bellach yn galluogi clystyrau ac practisau i gael gafael ar wybodaeth am ffurf eu gweithlu presennol.

Mae'r dull yn seiliedig ar fethodoleg y Chwe Cham ond mae'n rhannu'r broses yn set o bedwar cwestiwn:

  • Sut mae dechrau arni?
  • Ble rydyn ni arni nawr?
  • Ble rydyn ni am fod?
  • Sut ydyn ni'n mynd i gyrraedd yno?