Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Cam Gweithredu 8B Modelu Galw'r Gweithlu

Crynodeb 

Defnyddiwch fodelu galw i benderfynu faint o addysg a hyfforddiant sydd angen cynyddu yn y tymor canolig i'r tymor hir.

Disgrifiad

Mae'r dangosfwrdd yn helpu i gynllunio adnoddau'r gweithlu trwy ddefnyddio modelu efelychu. Mae'n tynnu data o dueddiadau poblogaeth, ystadegau'r gweithlu, gweithgaredd gwasanaeth, a chofnodion hyfforddi i ragweld anghenion staffio gofal iechyd yn y dyfodol. 

Manteision

Mae gwella dangosfwrdd data'r biblinell addysg-i-gyflogaeth yn allweddol i wneud cynllunio'r gweithlu yn fwy rhagweithiol. Mae'n darparu data defnyddiol ar gyfer trafodaethau ar hyfforddiant meddygon teulu a dylunio timau amlddisgyblaethol wrth helpu i nodi pwysau staffio cyn iddynt arwain at brinder.

Cynnydd hyd yn hyn

Mae AaGIC bellach wedi adeiladu'r dangosfwrdd hwn i wella gwelededd data'r gweithlu. Mae'n casglu data ar feddygon teulu a staff nyrsio ac yn cynnwys modelu galw yn seiliedig ar ragfynegiadau clefydau 2034. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio i arwain penderfyniadau ar hyfforddiant arbenigol meddygon teulu


Camau nesaf

Y cynllun nawr yw i ehangu'r dangosfwrdd i gynnwys Fferylliaeth, Deintyddiaeth ac Optometreg ond mae rhai heriau ansawdd data yn arafu hyn. Bydd y dangosfwrdd hefyd yn cysylltu â Cham Gweithredu 8D i helpu i wella ansawdd data galw yn seiliedig ar anghenion iechyd y boblogaeth.

 

Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i’n  cyfryngau cymdeithasol