Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae staff gofal sylfaenol yn ganolog i ofal iechyd yng Nghymru. Mae eich lles yn bwysig ac mae ystod eang o fuddion ar gael i'ch cefnogi. Mae'r rhain yn cynnwys gostyngiadau i helpu gyda chostau bob dydd, adnoddau lles i gynnal iechyd meddwl a chorfforol,a gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar gyfer diogelwch yn y gweithle. Mae'r cylchlythyr hwn yn tynnu sylw at fuddion pwysig, sut i gael mynediad atynt, a ble i ddod o hyd i ragor o wybodaeth. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol a chefnogol i'r holl staff.
Arbedwch ar siopa, teithio a hamdden gyda gostyngiadau unigryw i staff:
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd GIG Cymru neu Awdurdod Iechyd Arbennig, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd i gael manylion am y cynllun aberthu cyflog.
Adnoddau iechyd meddwl a llesiant cyfrinachol:
Cymorth ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle, sy’n ymwneud ag anafiadau nodwyddau, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Ar gyfer pob mater arall, cysylltwch â rheolwr eich practis.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan fwrdd iechyd yn hytrach na phractis dan gontract, cysylltwch â thîm llesiant eich bwrdd iechyd i gael gwybodaeth am wasanaethau ychwanegol sydd ar gael i chi.