Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Crynodeb |
Gan weithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, adolygu ac ehangu budd-daliadau staff nad ydynt ar gael i staff gofal sylfaenol ar hyn o bryd ac archwilio'r potensial i ehangu mynediad. |
Disgrifiad |
Bydd y cam gweithredu hwn yn helpu i sicrhau bod gan staff gofal sylfaenol fynediad teg at fudd-daliadau, adnoddau iechyd a lles a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. |
Manteision |
Drwy sicrhau bod gan bob aelod o staff gofal sylfaenol fynediad teg at fudd-daliadau, cymorth iechyd a lles a chyfleoedd i ddysgu a thyfu, mae'n arwain at foddhad swydd gwell ac yn helpu staff i aros yn eu rolau'n hirach. Pan fydd staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ac yn cael cyfle i ddatblygu, maent yn fwy hyderus ac yn gallu darparu gofal mwy diogel ac o ansawdd uwch i gleifion. |
|
Rydym yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) i wneud yn siŵr bod budd-daliadau staff yn deg i bawb mewn gofal sylfaenol. Ein prif nod yw adolygu ac ehangu'r budd-daliadau sydd ar gael, fel bod gan staff gofal sylfaenol yr un cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth, iechyd a datblygiad proffesiynol â staff eraill y GIG. Beth sydd wedi'i wneud hyd yn hyn:
|
|
Byddwn yn gorffen llunio'r rhestr lawn o fudd-daliadau staff ar gyfer staff gofal sylfaenol. Unwaith y bydd y rhestr wedi'i chwblhau, byddwn yn gwirio bod pob cydweithiwr gofal sylfaenol yn gallu cael mynediad at y budd-daliadau hyn. Ar ôl hyn, byddwn yn rhannu ac yn hysbysebu'r rhestr yn eang, fel bod pawb yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut i'w gael. |