Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru. Fel rhan o'r GIG, ein pwrpas yw gweithio gyda phartneriaid i gynllunio, datblygu, addysgu a hyfforddi'r gweithlu presennol a'r dyfodol. Ein gweledigaeth yw datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth.
Wrth i ni symud i mewn i oes llawn datblygiadau technolegol a newidiadau mewn cenedlaethau, mae meddu ar strategaeth addysg gadarn a blaengar yn hanfodol. Fel y corff gweithlu strategol yn GIG Cymru, rydym yn gyfrifol am gomisiynu a darparu addysg a hyfforddiant ar gyfer y GIG yng Nghymru. Ein rôl yw sicrhau bod gan y GIG y sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth a darparu gofal o safon. Mae'r addysg rydyn ni'n ei gomisiynu a'i darparu yn sylfaen i'n gweithlu presennol a'r dyfodol, gan eu harfogi â'r sgiliau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion ac i wella iechyd y boblogaeth.
Mae'n bwysig ein bod yn cymryd ymagwedd hirdymor a strategol at addysg i'n helpu i ragweld a pharatoi ar gyfer newidiadau mewn darparu gofal iechyd sy'n cael eu gyrru'n rhannol gan newidiadau technolegol a newidiadau mewn modelau gwasanaeth a allai effeithio ar y galw am sgiliau gofal iechyd. Ein nod yw sicrhau bod ein darpariaeth addysg yn addas ar gyfer y gweithlu sydd ei angen arnom yn y dyfodol, gan osgoi darpariaeth addysg hen ffasiwn neu un sydd wedi’i gam-alinio ag anghenion y boblogaeth, sy'n arwain at fylchau mewn sgiliau critigol. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod gennym ddull addysg ar waith sy'n bodloni disgwyliadau cenedlaethau'r dyfodol er mwyn gwneud y mwyaf o nifer y bobl sydd eisiau astudio a dysgu yng Nghymru i sicrhau piblinell gweithlu iach yn y dyfodol.
Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i'n helpu i ddatblygu ein strategaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddysgwyr, addysgwyr, cyflogwyr, darparwyr addysg, sefydliadau statudol ac arbenigwyr polisi i'n helpu i ddatblygu strategaeth gynhwysfawr a gyda hyn mewn golwg, rydym yn lansio galwad am dystiolaeth ffurfiol i sicrhau bod ein strategaeth addysg yn cael ei llywio gan safbwyntiau amrywiol.
Prif amcan yr alwad hon am dystiolaeth yw:
• Deall yr heriau a'r materion allweddol sy'n ymwneud â darparu addysg a hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru
• Asesu materion a thueddiadau y dyfodol sy'n debygol o effeithio ar ddarparu addysg a hyfforddiant gofal iechyd, yn enwedig gan feddwl am newidiadau technolegol a newidiadau cenedlaethau sy'n dylanwadu ar sut mae pobl yn dymuno ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant
• Casglu syniadau ar atebion arloesol a all wella deilliannau dysgu a hyrwyddo tegwch.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a'r dystiolaeth i helpu i lywio a llunio ein strategaeth addysg yn y dyfodol a bydd yn ein helpu i nodi themâu allweddol i'w harchwilio yn ein digwyddiadau ymgysylltu a gynhelir yn ddiweddarach yn 2025 ac ar ddechrau 2026.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddatblygu'r strategaeth yma.
I fframio'r drafodaeth, rydym wedi nodi meysydd lle bydd tystiolaeth a mewnbwn yn arbennig o werthfawr gan gynnwys:
♦ Ansawdd addysgol
♦ Cwricwlwm ac addysgeg
♦ Cynhwysiant a mynediad teg
♦ Technoleg mewn addysg
♦ Cefnogi addysgwyr.
Mae rhagor o wybodaeth am y meysydd hyn isod:
1. Ansawdd Addysgol
Sut ydym yn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael eu cefnogi gyda phrofiadau dysgu o safon sy'n canolbwyntio ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel a gwella canlyniadau cleifion?
Cwestiynau sbarduno
2. Cwricwlwm ac Addysgeg
Sut ydym yn sicrhau bod addysg gofal iechyd yn parhau i fod yn gadarn ac yn gallu addasu ac ymateb i ddatblygiadau gwyddonol a thechnolegol?
Cwestiynau sbarduno:
• Pa sgiliau fydd eu hangen ar ein gweithlu yn y dyfodol?
• Ar beth ddylai cwricwlwm yn y dyfodol ganolbwyntio?
• Sut ydyn ni'n gwneud addysg a hyfforddiant yn fwy hyblyg ac ystwyth fel y gall ymateb i fodelau gofal iechyd newidiol?
• Sut allwn ni feithrin gwell addysg rhyng-broffesiynol i helpu i chwalu rhwystrau rhwng gwahanol grwpiau proffesiynol?
3. Cynhwysiant a Thegwch
Sut ydyn ni'n mynd i'r afael â rhwystrau (megis oedran, daearyddiaeth, cefndir, gallu) i ymestyn cyfleoedd i bob dysgwr gael mynediad at addysg neu hyfforddiant sy'n gwella mynediad at rolau gofal iechyd a dilyniant gyrfa?
Cwestiynau sbarduno:
• Beth yw'r rhwystrau allweddol i ddull mwy cynhwysol?
• Beth yw'r meysydd allweddol rydych chi'n meddwl y dylai'r strategaeth hon fynd i'r afael â nhw?
4. Technoleg mewn Addysg
Pa rôl ddylai technoleg ei chwarae mewn addysg gofal iechyd modern?
Cwestiynau sbarduno:
• Sut allwn ni ddefnyddio offer digidol i wella addysgu wrth fynd i'r afael â phryderon fel mynediad anghyfartal at dechnoleg ddigidol ac amser sgrin?
• Pa rôl y gallai Deallusrwydd Artiffisial (AI) ei chwarae wrth addysgu a hyfforddi'r gweithlu gofal iechyd?
• Beth allai AaGIC ei ddysgu gan systemau gofal iechyd eraill mewn addysg a hyfforddiant sydd wedi'i alluogi gan dechnoleg?
5. Cefnogi Addysgwyr
Pa gefnogaeth a hyfforddiant sydd eu hangen ar addysgwyr gofal iechyd* i ffynnu yn eu rolau?
Cwestiynau sbarduno:
• Beth yw'r materion a'r heriau cyfredol?
• Sut allwn ni gefnogi addysgwyr ar bob lefel (h.y. o gefnogi'r rhai sydd angen addysg sylfaenol i rolau addysgwr ffurfiol)
Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i HEIW.EducationStrategy@wales.nhs.uk yn y fformatau canlynol:
• Cyflwyniadau Ysgrifenedig: Rhannwch eich mewnwelediadau, syniadau, a chanfyddiadau ymchwil mewn dogfen ysgrifenedig. Gallwch ymateb i bob un neu rai o'r meysydd allweddol a restrir uchod. Os ydych chi'n ymateb ar ran sefydliad ac yn hapus i gael eich adnabod, yna nodwch hyn. Os ydych chi'n ymateb fel unigolyn, nid oes angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt ond os gwnewch hynny, ni fyddwn yn cyhoeddi ymatebion unigol.
• Astudiaethau Achos: Gallwch ddarparu enghreifftiau o raglenni, polisïau neu fentrau llwyddiannus a allai fod yn fodelau ar gyfer gweithredu ehangach.
• Data ac Ystadegau: Cyflwynwch dystiolaeth feintiol sy'n tynnu sylw at dueddiadau, heriau a chyfleoedd sy'n berthnasol i'r strategaeth addysg.
• Tystebau: Rhannwch brofiadau personol neu arsylwadau ar yr hyn sy'n gweithio a beth sydd angen ei wella. Os ydych chi'n ymateb yn unigol fel dysgwr neu weithiwr gofal iechyd, bydd unrhyw beth a gyhoeddwn yn ddienw ac na ellir ei adnabod.
Anfonwch wybodaeth at HEIW.EducationStrategy@wales.nhs.uk. Fel arall, defnyddiwch y ffurflenni canlynol i gymryd rhan:
Yn ogystal â chyflwyniadau ysgrifenedig, rydym yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i hwyluso deialog. Bydd y rhain yn cynnwys cyfleoedd wyneb yn wyneb ac ar-lein
• Wyneb yn Wyneb - Digwyddiad Trafod – cynhelir hwn yn Ne Cymru yn ystod y Gwanwyn cynnar 2026. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ar gyfer addysg gofal iechyd yng Nghymru
• Gweithdai: Sesiynau ar-lein/rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar themâu penodol (bydd y rhain yn cael eu trefnu yn dilyn y digwyddiad wyneb yn wyneb a byddant yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn 2025/dechrau 2026)
• Trafodaethau y Bord Gron: Sgyrsiau grŵp bach gyda'r nod o feithrin archwiliad manwl o faterion allweddol – Hydref 2025
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen we maes o law.
• Galwad am dystiolaeth yn agor: 1af Gorffennaf 2025
• Dyddiad cau: 15 Rhagfyr 2025
Rydym wedi ymrwymo i drin pob cyflwyniad gyda'r cyfrinachedd mwyaf. Dim ond yn unol â chyfreithiau diogelu data y bydd data personol yn cael ei ddefnyddio ac mae Asesiad Effaith Preifatrwydd Data (DPIA) wedi'i gwblhau. O'r dystiolaeth a gyflwynwyd, byddwn yn datblygu crynodeb thematig gyda chyfraniadau dienw. Os byddwch yn cyflwyno tystiolaeth gan sefydliad ac yn nodi eich bod yn hapus i ni gyhoeddi'r wybodaeth rydych chi'n ei ddarparu, rhowch wybod i ni. Bydd ymatebion gan unigolion yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddienw ac ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei chyhoeddi.
Mae eich llais o bwys. Drwy gymryd rhan yn yr alwad hon am dystiolaeth, rydych yn cyfrannu at weledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol addysg a hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru. Diolchwn i chi ymlaen llaw am eich amser, eich arbenigedd a'ch ymrwymiad i lunio ein strategaeth.
Cwricwlwm - mae'r cwricwlwm yn fframwaith ar gyfer gosod nodau y rhaglen addysg, gan gynnwys y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i'w ennill ym mhob cam.
Rhaniad digidol – defnyddir hyn i ddisgrifio lle mae mynediad anghyfartal i dechnoleg ddigidol.
Addysg rhyng-broffesiynol - Mae hyn yn digwydd pan fydd myfyrwyr o ddau neu fwy o weithwyr proffesiynol yn dysgu am ei gilyddd, oddi wrth a gyda'i gilydd.
Addysgeg - Deallir yn fwyaf cyffredin fel yr ymagwedd at addysgu, theori ac ymarfer dysgu, a sut mae'r broses hon yn dylanwadu, ac yn cael ei dylanwadu gan, datblygiad cymdeithasol, gwleidyddol a seicolegol dysgwyr.
*yng nghyd-destun y strategaeth, mae'r term 'addysgwr' yn cael ei ddefnyddio fel term eang i ddisgrifio'r rhai sydd â rôl ffurfiol wrth addysgu a hyfforddi'r gweithlu gan gynnwys myfyrwyr a hyfforddeion mewn amgylchedd gofal iechyd. Ar draws grwpiau proffesiynol, mae teitlau swyddi a rolau yn wahanol ac mae safonau wedi'u gosod gan Reoleiddwyr sy'n diffinio cyfrifoldebau penodol. Ni fydd y strategaeth yn canolbwyntio ar y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau eraill fel sefydliadau addysg uwch neu addysg bellach sydd y tu allan i'n cylch gorchwyl.