Dyddiadau: ymgynghoriad yn fyw o 15/07/24-25/08/24 (ymgynghoriad 6 wythnos).
Nod
Nod y strategaeth yw gwasanaethu pob proffesiwn o fewn Gwyddor Gofal Iechyd, gan helpu i feithrin ein gallu i ymgymryd ag ymchwil ac arloesi ac arwain ym maes ymchwil. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud a rhannu eich barn ar y ddogfen cyn ei chyhoeddi.
Sut i gymryd rhan
I ddweud eich dweud, gallwch gymryd rhan yn y ffyrdd canlynol:
Trwy fynychu un o'n digwyddiadau yma:
25/07/2024 |
Caffi Sgwrsio – Digwyddiad ar-lein
|
|
29/07/2024 |
Caffi Sgwrsio – Digwyddiad ar-lein
|
|
12/08/2024 |
I'w gadarnhau |
Abertawe – lleoliad i'w gadarnhau
|
19/08/2024 |
9:00-12:30 sesiwn y bore |
Ysbyty Athrofaol y Grange, NP44 8YN |
27/08/2024 | 13:00-16:00 | Digwyddiad wyneb yn wyneb (PM) Ystafell 6, Athrofa Feddygol Wrecsam, Canolfan Parc Technoleg Ysbyty Maelor Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7YP |
Cysylltwch drwy e-bost: heiw.hcs@wales.nhs.uk.
Cefndir
Yn unol â ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru, mae’r strategaeth bum mlynedd hon ar gyfer ymchwil ac arloesi yn nodi ein gweledigaeth, y dirwedd bresennol a’n hargymhellion, sy’n benodol i’r gweithlu Gwyddor Gofal Iechyd. Mae’r ddogfen hon wedi bod yn cael ei datblygu drost yr 8 mis diwethaf, gyda drafftiau yn cael eu rhannu â Bwrdd y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, y Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd, Grŵp Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd (RIG), ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW).
Er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn cyflawni ei phwrpas, sef gwasanaethu'r holl weithlu Gwyddor Gofal Iechyd ledled Cymru, mae bellach yn cael ei rhyddhau ar gyfer cyfnod ymgynghori proffesiynol. Croesewir adborth, o unrhyw lefel o brofiad, gan yr holl weithwyr proffesiynol Gwyddor Gofal Iechyd a’r rheini o’r tu allan i’r gweithwyr proffesiynol hyn, sy’n gweithio ochr yn ochr â ni.