Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Bum Mlynedd ar gyfer Gweithwyr Gwyddor Gofal Iechyd Proffesiynol yng Nghymru

Dweud eich dweud ar ddatblygiad y Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd.


Dyddiadau: ymgynghoriad yn fyw o 15/07/24-25/08/24 (ymgynghoriad 6 wythnos).


Nod

Nod y strategaeth yw gwasanaethu pob proffesiwn o fewn Gwyddor Gofal Iechyd, gan helpu i feithrin ein gallu i ymgymryd ag ymchwil ac arloesi ac arwain ym maes ymchwil. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud a rhannu eich barn ar y ddogfen cyn ei chyhoeddi.

 

Sut i gymryd rhan

I ddweud eich dweud, gallwch gymryd rhan yn y ffyrdd canlynol:

25/07/2024

12:00-12:30 

12:30-13:00

13:00-13:30

13:30-14:00

Caffi Sgwrsio – Digwyddiad ar-lein

 

29/07/2024

12:00-12:30 

12:30-13:00

13:00-13:30

13:30-14:00

Caffi Sgwrsio – Digwyddiad ar-lein

 

5/08/2024

9:00-12:30 sesiwn y bore

13:00-16:30 sesiwn prynhawn

Digwyddiad Personol (AM)

Digwyddiad Personol (PM)

Canolfan Busnes Conwy, LL31 9XX

 

12/08/2024

I'w gadarnhau

Digwyddiad Personol

Abertawe – lleoliad i'w gadarnhau

 

19/08/2024

9:00-12:30 sesiwn y bore

Digwyddiad Personol

Ysbyty Athrofaol y Grange,

NP44 8YN

 

Cysylltwch drwy e-bost: heiw.hcs@wales.nhs.uk.

 

 

Cefndir

Yn unol â ‘Cymru Iachach’ Llywodraeth Cymru, mae’r strategaeth bum mlynedd hon ar gyfer ymchwil ac arloesi yn nodi ein gweledigaeth, y dirwedd bresennol a’n hargymhellion, sy’n benodol i’r gweithlu Gwyddor Gofal Iechyd. Mae’r ddogfen hon wedi bod yn cael ei datblygu drost yr 8 mis diwethaf, gyda drafftiau yn cael eu rhannu â Bwrdd y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, y Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd, Grŵp Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd (RIG), ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW).

Er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn cyflawni ei phwrpas, sef gwasanaethu'r holl weithlu Gwyddor Gofal Iechyd ledled Cymru, mae bellach yn cael ei rhyddhau ar gyfer cyfnod ymgynghori proffesiynol. Croesewir adborth, o unrhyw lefel o brofiad, gan yr holl weithwyr proffesiynol Gwyddor Gofal Iechyd a’r rheini o’r tu allan i’r gweithwyr proffesiynol hyn, sy’n gweithio ochr yn ochr â ni.