Mae’r galw am wasanaethau adsefydlu yn cynyddu. Mae hyn oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, mwy o bobl yn byw gydag eiddilwch, cyflyrau cymhleth hirdymor, dadelfennu (gostyngiad mewn gweithrediad corfforol) ac effaith y pandemig ar iechyd a lles pobl.
Er mwyn helpu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) i ddarparu gwasanaethau adsefydlu, a phobl sydd angen mynediad atynt, rydym wedi datblygu Safonau Arfer Gorau Adsefydlu Cymunedol Cymru Gyfan.
Nod y gwaith hwn yw:
Mae'r safonau'n cynnwys dau adnodd hunanarchwilio: un ar gyfer darparwyr gwasanaeth ac un ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd y rhain yn helpu pobl sy'n gweithio ym maes adsefydlu i weld sut mae eu gwasanaeth yn bodloni'r safonau hyn. Bydd yn nodi'r galluogwyr ansawdd sydd angen eu gwella a bydd y ddogfen yn darparu adnoddau i'w gwella. Bydd hefyd yn gweithredu fel platfform, i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau adsefydlu a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau adsefydlu, roi adborth ar eu profiad fel y gallwn barhau i wella.
Yn ogystal, rydym wedi dylunio templedi Microsoft Form enghreifftiol ar gyfer timau neu wasanaethau. Bydd y rhain yn eich cefnogi ymhellach i gasglu adborth gan ymarferwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth mewn fformat arall.
Mae’r safonau a’r galluogwyr ansawdd hyn wedi’u datblygu i gefnogi Fframwaith Adsefydlu Cymru Gyfan (2022) drwy ddarparu safonau mwy penodol ar gyfer adsefydlu cymunedol.