Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Staff GIG Cymru 2024

Arolwg Staff GIG Cymru 2024: Diweddariad a'r Camau Nesaf

Diolch i bawb a gymerodd ran yn Arolwg Staff GIG Cymru 2024 ac am eich ymdrechion i rannu’r arolwg gyda chydweithwyr a thimau. Mae eich cyfraniadau wedi helpu i ni glywed gan bron i 25,000 o leisiau cydweithwyr ar draws GIG Cymru.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y canlyniadau ar fin cael eu rhyddhau. Bydd canlyniadau sefydliadau penodol y GIG (ac eithrio sylwadau rhydd) ar gael i Arweinwyr Partneriaeth Arolwg Staff ddydd Llun, 27 Ionawr trwy ddangosfwrdd arolwg. Yn dilyn y lansiad rhannol hwn, bydd y canlyniadau yn cael eu rhyddhau'n llawn i bob person enwebedig ym mhob sefydliad GIG ddydd Gwener, 31 Ionawr.

Beth i'w Ddisgwyl o'r Dangosfwrdd

Bydd y dangosfwrdd yn darparu data cymharol ar gyfer 2023 a 2024 (lle bo’n berthnasol), gan gynnwys:

  • Cymhariaeth profiad staff yn ôl grwpiau gwarchodedig
  • Cymhariaeth profiad staff yn ôl grwpiau staff
  • Cyfartaledd Cymru gyfan ar gyfer meincnodi

Y Camau Nesaf

Byddwn yn dechrau dadansoddi canlyniadau Cymru Gyfan. Ar lefel genedlaethol, bydd Tîm Prosiect Arolwg Staff AaGIC yn hwyluso sgyrsiau ymhlith Arweinwyr Partneriaeth Arolwg Staff Sefydliadau’r GIG i rannu arferion gorau ac annog cydweithredu i fynd i’r afael â heriau a rennir ar draws GIG Cymru.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch Arweinydd Partneriaeth Arolwg Staff, a restrir yn y tabl isod.

Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth. Nawr daw'r dasg hollbwysig o droi’r mewnwelediadau yn welliannau ystyrlon.

 

Sefydliad

Arweinydd Arolwg Staff

BIPAB

Daniel Madge

BIPBC

Katie Sargent

BIPBC

Sion Pritchard

BIPCAF

Angela Voyle Smith

BIPCAF

Emily Hughes

BIPCTM

Rebecca Watkins

IGDC

Bernadette Sesay

BIPHDD

Rob Blake

BIPHDD

Joanna Thomas

AaGIC

Charlotte Morris

NHSE

Phillipa Ioannides

NHSE

Vivienne Thorngate

NHSE

Brett Wrightbrook

PCGC

Elena Morris

PCGC

Nada Tinsley

ICC

Brett Wrightbrook

BIAP

Rhys Brown

BIAP

Sam Powell

BIPBA

Dan Blyth

BIPBA

Julie Lloyd

BIPBA

Sara Skre-Kelly

VUNHST

Claire Budgen

WAST

Sarah Davies

 

#MaeEichLllaisYnBwysig

LinkedIn: https://linkedin.com/company/nhs-wales-staff-survey