Neidio i'r prif gynnwy

Uchafbwyntiau AaGIC 23 Ionawr 2026

Dros y pythefnos diwethaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi'r bobl sy'n darparu iechyd a gofal ledled Cymru. Drwy addysg, cydweithio ac arloesi, rydym yn helpu'r gweithlu i lywio heriau heddiw wrth adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Cymerwch olwg ar rai o'n huchafbwyntiau diweddar isod:

Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal ar draws pob maes o ymarfer clinigol yn GIG Cymru i helpu i lunio Fframwaith Gallu Genomeg newydd. “Ond dydw i ddim yn gweithio ym maes genomeg?” Does dim ots. ewch i: https://aagic.gig.cymru/diweddariadau/newyddion/dweud-eich-dweud-mae-gweithlu-gig-cymru-yn-cael-ei-annog-i-helpu-i-lunio-fframwaith-gallu-genomeg-newydd/

Mae ein rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Therapi Deintyddol ar gyfer therapyddion deintyddol newydd gymhwyso yn dechrau ym mis Medi 2026. Gweler mwy yma; https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-z/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/cymru-wdtft/

Mae dros 35,000 o ddysgwyr bellach wedi cofrestru ar Y Tŷ Dysgu! Mewn dim ond dwy flynedd, mae Y Tŷ Dysgu - platfform e-ddysgu cenedlaethol Cymru ar gyfer staff gofal iechyd, wedi tyfu i fwy na 35,057 o ddefnyddwyr, gan gefnogi dysgu, hyder a gofal gwell ledled Cymru. Archwiliwch Y Tŷ Dysgu: https://ytyydysgu.heiw.wales

Cyfres Arweinyddiaeth Arbenigol y Gwanwyn – ein cyfres arweinyddiaeth gynhwysol - Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu piblinellau talent cynhwysol ar draws GIG Cymru. Gweler mwy yma: https://leadershipportal.heiw.wales/events/8bfe531d-b5b8-4f81-8378-0ffa29289f13/overview

Archwiliwch Ddyfodol Cynllunio'r Gweithlu gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Rydym yn cynnal ein cynhadledd cynllunio’r gweithlu flynyddol ar 24 Chwefror 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae cofrestru ar agor nawr; https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrn1Cn8qUR8JOhXHGzY_iXSVUNzBFMU1SREZBMldGSUVYVDAxVzNESFFJWC4u

Newyddion mawr i Wyddor Gofal Iechyd yng Nghymru! Am y tro cyntaf, mae Cymrodoriaeth Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd ar gyfer GIG Cymru YN UNIG! Mwy o wybodaeth a sut i wneud cais yma: https://hrc-longterm.nihr.ac.uk/who-we-work-with/fellowships

Pa rôl mae cyfryngu yn ei chwarae ar draws GIG Cymru? Mae perthnasoedd gwaith iach yn hanfodol i lesiant staff, gwaith tîm effeithiol, cadw staff a gofal cleifion o ansawdd uchel: Dydd Mawrth 3 Chwefror, 11-12pm sesiwn ar-lein. Cofrestrwch yma: https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?

Proses Cymeradwyo Goruchwylwyr Addysgol Deintyddol Cymru (DESAP) bellach ar agor!

Mae Proses Gymeradwyo Goruchwylwyr Addysgol Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol blynyddol AaGIC ar agor, tan 20 Chwefror 2026. Mwy o wybodaeth yma: https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-z/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/hyfforddiant-deintyddol-sylfaenol/desap/

Rydym yn parhau â'n Cynnig Recriwtio Uwch ar gyfer Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Cymru (DFT WERO) recriwtio lleol ar gyfer 2026/27, sy'n cynnig pecyn deniadol i ddeintyddion graddedig i gwblhau eu hyfforddiant sylfaen mewn rhan wledig o Gymru. https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/a-i-z/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/hyfforddiant-deintyddol-sylfaenol/dft-wero/

 

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni