Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Profiad gwyddor gofal iechyd trochol newydd wedi'i lansio gan AaGIC yn Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio profiad gwyddor gofal iechyd rhyngweithiol newydd yn Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth yn Wrecsam, sy'n arddangos y proffesiynau gwyddoniaeth cyffrous ac amrywiol sy'n cefnogi GIG Cymru.

Wedi'i chyflwyno’n ddiweddar gan Dr Sarah Bant, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid y Gweithlu, AaGIC, mae'r arddangosfa yn gosod ymwelwyr mewn amgylchedd ysbyty rhithwir lle gallant archwilio senarios diagnostig a thriniaeth go iawn dan arweiniad gwyddonwyr gofal iechyd. Roedd disgyblion o ysgolion cynradd y Rofft ac Ysgol Pen Barras ymhlith y cyntaf i'w phrofi, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n dod â gwyddor gofal iechyd yn fyw.

Ysbrydoli gweithlu Cymru y dyfodol

Fel y corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu gweithlu GIG Cymru, mae AaGIC yn creu cyfleoedd sy'n helpu pobl o bob oed i archwilio gyrfaoedd iechyd yn y dyfodol.

Mae'r arddangosfa yn rhan o waith ehangach AaGIC i ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd yn y GIG ac ehangu mynediad at lwybrau gwyddoniaeth o oedran ifanc. Wedi'i ddatblygu gyda Xplore! a gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd, mae'n darparu cyflwyniad diddorol o ansawdd uchel i ehangder rolau gwyddoniaeth o fewn GIG Cymru ac yn cysylltu ymwelwyr â gwybodaeth bellach am yrfaoedd.

Gyda mwy na 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, mae Xplore! yn cynnig llwyfan pwerus i gyrraedd plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled gogledd Cymru, gan helpu i arddangos y cyfleoedd gwirioneddol sydd ar gael o fewn y GIG.

Dywedodd Dr Sarah Bant, AaGIC: "Mae'r arddangosfa hon yn cynnig cyfle i ymwelwyr o bob oed gamu i esgidiau gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd y GIG, gan gwrdd â rhai o'n gwyddonwyr gwych ar hyd y ffordd. Does dim ffordd well o dynnu sylw at yr ystod o broffesiynau gwyddor gofal iechyd na thrwy chwarae rhyngweithiol, ac mae'r ganolfan wyddoniaeth yn lleoliad delfrydol ar ei gyfer."

Bellach wedi'i osod yn barhaol yn Xplore!, bydd y profiad yn cefnogi ysgolion a chymunedau trwy gydol y flwyddyn.

Gwyliwch y fideo: Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! - Lle mae Gwyddoniaeth yn Byw