Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae ‘Gwella’ y porth arweinyddiaeth ar gyfer holl staff GIG Cymru wedi’i lansio heddiw. Mae'r adnodd digidol dwyieithog ar gael drwy unrhyw ddyfais symudol ac mae'n darparu mynediad at ystod eang o adnoddau arwain a rheoli tosturiol a guradwyd o Gronfa’r Brenin, y Brifysgol Agored a chydweithwyr ar draws cenhedloedd eraill y DU.
Alex Howells, Prif Swyddog Gweithredol, AaGIC dywedodd"Rydym yn falch iawn o lansio Gwella -Porth Arweinyddiaeth AaGIC yng Nghymru.
"Bydd y porth arweinyddiaeth hygyrch a dwyieithog hwn yn agored i bawb ac yn darparu ystod eang o adnoddau arweinyddiaeth dosturiol a fydd o fudd i arweinwyr ar bob lefel ar draws ein system".
Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio gyda'r Athro Michael West sydd wedi darparu deunyddiau academaidd ar sail tystiolaeth sydd wedi'u digideiddio (enghraifft isod). Mae'r deunyddiau hyn hefyd ar gael fel adnoddau addysgu fel y gall sefydliadau integreiddio i mewn i raglenni arweinyddiaeth a rheoli presennol. Dyluniwyd Gwella i alluogi sefydliadau'r GIG i greu rhwydweithiau arweinyddiaeth, adnoddau wedi'u digideiddio a darparu rhaglenni arweinyddiaeth a rheolaeth trwy ei gyfleusterau rhithwir integredig ystafell ddosbarth.
Yr Athro Michael West dywedodd "Mae'r wefan yn cynnig gweledigaeth bwerus i gefnogi datblygiad gofal o ansawdd uchel a thosturiol i bobl Cymru.
"Mae'r cynnwys yn cynnig integreiddiad gwych o gynnwys cydlynol a chyfoethog, gyda sylfaen dystiolaeth gymhellol ar gyfer sut y gallwn ddatblygu arweinyddiaeth a diwylliannau tosturiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae wedi'i chynllunio a'i strwythuro'n hardd ac mae’r cynnwys ar yr un pryd yn ymarferol a hygyrch ym mhob ardal. Gall gweithredu'r strategaeth y mae'r wefan yn ei disgrifio galluogi Cymru i fod yn fodel ar gyfer y byd o ran sut i ofalu am bobl ein gwlad.
"Mae'n seiliedig ar werthoedd craidd tosturi, doethineb, dewrder, dynoliaeth a chyfiawnder sy'n sicrhau cysondeb â'r egwyddorion sy'n sail i gymdeithasau teg ac iach ym mhobman. Mae'n cynnig ffordd ddisglair ymlaen ar ôl tywyllwch pandemig Covid".
Cymerwyd dull cynhwysol o ddatblygu'r wefan er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol a hyrwyddo tegwch wrth gyrchu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar draws y GIG a'r gweithlu Gofal Cymdeithasol ehangach. Gallwch gyrchu porth Arweinyddiaeth Gwella yma. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r adnodd arweinyddiaeth gyffrous hwn, cysylltwch ag emily.millar@wales.nhs.uk.