Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Gall pob gweithiwr fferyllol proffesiynol cofrestredig sy’n darparu gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd mewn fferyllfa gymunedol neu bractis meddyg teulu (gan gynnwys staff locwm hunangyflogedig) wneud cais am gyllid i’w cefnogi i ddatblygu sgiliau uwch neu estynedig.
Mae gweithwyr fferyllol proffesiynol sy’n gweithio o fewn y lleoliadau hyn yng Nghymru yn gymwys i gael mynediad at y cyllid ar gyfer ffioedd cyrsiau yn unig, er mwyn sicrhau cyfleoedd hyfforddi sy’n cefnogi darpariaeth gwasanaethau’r GIG.
Rhaid i geisiadau am gyllid addysg ddangos cymhelliad ar sail gwasanaeth a dangos cysylltiad â ‘Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach’, a blaenoriaethau penodol sydd wedi’u nodi.
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 30ain Mehefin 2021. Bydd AaGIC yna’n adolygu’r ceisiadau hyn yn ôl y cyllid sydd ar gael ac yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd am ganlyniad ei gais erbyn 14eg Gorffennaf. Bydd y rhai a lwyddent i sicrhau cyllid yn derbyn llythyr nawdd gan AaGIC, y gallant ei ddefnyddio pan yn ymgeisio am y cwrs yn y Sefydliad Addysg Uwch.
Bydd yn rhaid i weithwyr fferyllol proffesiynol anfon cais yn uniongyrchol at y sefydliadau sy’n cynnig y cwrs a byddant yn ddarostyngedig i’w gofynion cymhwyster hwy. Bydd AaGIC yn cysylltu â’r sefydliadau Addysg Uwch i dalu ffioedd y cwrs, ar gyfer y rhai sy’n ymaelodi’n llwyddiannus ar gyfer y cyrsiau.
Os ydych yn gweithio o fewn unrhyw un o’r sectorau hyn, cliciwch yma i ganfod mwy am y cyrsiau sydd ar gael a chael mynediad at ffurflen gais.