Neidio i'r prif gynnwy

Modiwlau MSc mewn Genomeg a ariennir gan AaGIC

Cyhoeddedg 17/02/2026

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch i gynnig cyllid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn GIG Cymru i ymgymryd â modiwlau MSc mewn genomeg. 

Cyflwynir gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) a Pharc Geneteg Cymru (WGP). Mae'r modiwlau unigol wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen ar unigolion i lywio tirwedd genomeg sy'n esblygu'n gyflym mewn gofal iechyd, ni waeth beth yw eu maes ymarfer clinigol neu arbenigedd. Mae gwerth ugain credyd i bob modiwl. Cyflwynir pob un trwy raglenni e-ddysgu ar-lein hyblyg i gyfrif am ymrwymiadau proffesiynol a phersonol presennol y myfyrwyr.

Genomeg yw'r astudiaeth o enynnau unigolyn i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'i iechyd. Mae'r ddisgyblaeth ddatblygol yn cynnig cyfleoedd i wella gofal cleifion yn sylweddol, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:

  • cynlluniau triniaeth personol
  • diagnosis cynharach
  • nodi risgiau iechyd eraill 
  • osgoi effeithiau andwyol meddyginiaeth 
  • olrhain ac ymateb i achosion o haint, a  
  • darparu gwybodaeth risg ar gyfer cleifion ac aelodau o'u teuluoedd 

Gyda gweithlu medrus a mynediad at y profion genomig cywir, gall GIG Cymru drawsnewid gofal cleifion am genedlaethau i ddod. 

Archwiliwch y modiwlau sydd ar ddod: 

1. MET952 – Technegau a Thechnolegau Omeg a'u Cymhwysiad i Feddygaeth Enetig 
Addysgu: 23 Chwefror – 10 Mehefin 2026 
Ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd eisiau integreiddio aml-omeg i ymarfer clinigol 

2. MET955 – Biowybodeg, Dehongli a DQA mewn Dadansoddiad Genetig 
Addysgu: 9 Mawrth 2026 i 24 Mehefin 2026
Ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ceisio gwella’u sgiliau biowybodeg (meddygion, clinigwyr, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP), gwyddonwyr gofal iechyd, cynghorwyr genetig) 

3. MET951 – Cymhwyso Genomeg mewn Clefydau Heintus 
Addysgu: 6 Ebrill 2026 i 22 Gorffennaf 2026 
Ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar genomeg mewn haint (meddygion, clinigwyr, nyrsys, AHPs, gwyddonwyr gofal iechyd, gweithwyr iechyd cyhoeddus) 

Am fanylion ar sut i wneud cais, ewch i wefannau Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am genomeg mewn gofal iechyd, ewch i Genomeg - AaGIC.