Cyhoeddwyd: 8/01/2025
Beth yw'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)?
Mae bron i hanner miliwn o fyfyrwyr ledled y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr bob blwyddyn.
Mae'r arolwg yn gyfle i fyfyrwyr blwyddyn olaf roi adborth gonest am sut brofiad yw astudio ar eu cwrs yn eu prifysgol neu goleg. Fe'i cyhoeddir bob blwyddyn ac mae'n ffynhonnell wybodaeth gyfoethog a dylanwadol am addysg uwch. Mae'r arolwg yn elfen allweddol o sicrhau ansawdd a'r dirwedd reoleiddio ehangach mewn addysg uwch yn y DU.
Cynhelir yr arolwg gan y Swyddfa i Fyfyrwyr (OfS) rhwng 8 Ionawr - 30 Ebrill 2026.
Mae gan fyfyrwyr lais cyfunol pwerus a fydd yn helpu i lunio dyfodol cyrsiau a phrifysgolion/colegau ar gyfer myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.
Mae myfyrwyr blwyddyn olaf yn cwblhau'r arolwg ym:
Pwy sy'n elwa o'r Arolwg?
Mae adborth yn rhoi darlun i brifysgolion neu golegau o sut brofiad dysgu fu i'r myfyriwr blwyddyn olaf presennol. Mae prifysgolion a cholegau ac undebau myfyrwyr (cymdeithasau neu urddau) yn edrych ar ddata dienw'r arolwg i ddeall beth maen nhw'n ei wneud orau a beth sydd angen newid. Gellir defnyddio barn myfyrwyr i helpu i wneud newidiadau a fydd yn gwella'r profiad dysgu. Yn ehangach, mae'r arolwg yn darparu gwybodaeth bwysig i bedwar corff rheoleiddio ac ariannu addysg uwch y DU – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil(Medr),Adran yr Economi Gogledd Iwerddon (DfENI) a Chyngor Cyllido'r Alban(SFC).
Mae canlyniadau'r arolwg hefyd ar gael yn gyhoeddus ar wefan chwiliad cyrsiau israddedig Discover Uni. Gall darpar fyfyrwyr sy'n ystyried addysg uwch yn y DU ddarganfod beth oedd barn myfyrwyr am unrhyw gwrs, i'w helpu i benderfynu beth i'w astudio a ble.
Mae prifysgolion a cholegau hefyd yn defnyddio'r canlyniadau i wella profiad dysgu myfyrwyr a chyhoeddir y data ar wefan y Swyddfa Myfyrwyr.
Cyfrinachedd
Comisiynir yr arolwg gan y Swyddfa Myfyrwyr, ar ran cyrff ariannu a rheoleiddio'r DU – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil(Medr), Adran yr Economi Gogledd Iwerddon (DfENI) a Chyngor Cyllido'r Alban(SFC).
Cynhelir yr arolwg yn annibynnol gan Ipsos. Mae'r arolwg yn parchu preifatrwydd y myfyrwyr sy'n cymryd rhan, ac felly, mae ymatebion unigol yn gyfrinachol. Cyfeiriwch at yr adran 'Math o gwestiynau a ofynnir' yn y Cwestiynau Cyffredin am ganllawiau ar gadw eich anhysbysrwydd chi ac anhysbysrwydd eraill yn y sylwadau testun agored.
Am ragor o wybodaeth, yn ogystal â chymorth gydag ymholiadau penodol, gweler Cwestiynau Cyffredin (FAQs) yr arolwg.
Mae ansawdd addysg gofal iechyd yn wirioneddol bwysig i ni ac i ddyfodol GIG Cymru. Mae AaGIC yn dibynnu ar ganlyniadau'r arolwg i werthuso'r rhaglenni rydyn ni'n eu comisiynu, gan nodi ble mae angen gwelliannau a sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr hyfforddiant o'r safon uchaf. Gyda mewnbwn myfyrwyr, mae'r arolwg yn caniatáu inni glywed eich llais.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â HEIW.WalesHealthStudentForum@wales.nhs.uk