Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Mae hyfforddiant newydd i wella gofal i gleifion endometriosis ac adenomyosis yn nodi lansio Hwb Addysg Iechyd Menywod ar gyfer GIG Cymru

Cyhoeddedg 09/03/2026

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) heddiw (dydd Llun 9 Mawrth) wedi rhyddhau modiwlau e-ddysgu newydd ar iechyd menywod ar gyfer gweithlu GIG Cymru.

Creodd AaGIC y modiwlau hyn fel rhan o Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru (2025–2035), gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth am endometriosis ac adenomyosis, yn ogystal â chefnogi canlyniadau gwell i gleifion sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn. 

Mae endometriosis yn effeithio ar dua un o bob deg menyw yng Nghymru ac ynghyd ag adenomyosis, yn gall achosi poen cronig, gwaedu mislif trwm, blinder a heriau ffrwythlondeb. Gall ymwybyddiaeth gyfyngedig ymhlith rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol achosi oedi wrth wneud diagnosis, a dyna pam mae addysg a chodi ymwybyddiaeth barhaus i gefnogi cydnabyddiaeth gynharach, diagnosis, ymyrraeth amserol a gofal sy'n canolbwyntio ar y person yn allweddol.

Wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, mae pob modiwl wedi'i rannu'n bedair adran (cyflwyniad, hanfodion, clinigol ac arbenigol) i sicrhau dysgu clir, hygyrch a hawdd ei ddeall.

Mae rhyddhau'r modiwlau yn cyd-fynd â lansio Hwb Addysg Iechyd Menywod Cenedlaethol ar blatfform e-ddysgu cenedlaethol AaGIC, Y Ty Dysgu. Bydd yr Hwb yn parhau i gael ei ddiweddaru gydag adnoddau a gynlluniwyd i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal cyson, o ansawdd uchel a chyfartal i fenywod ledled Cymru.

Dywedodd Danielle Garrett, Rheolwr Rhaglen Iechyd Menywod yn AaGIC:

"Mae gwella addysg iechyd menywod yn hanfodol ar gyfer triniaeth gyson a gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar y person.

“Mae cyflwyno’r modiwlau hyn yn cynrychioli cynnydd tuag at bontio bylchau addysg ym maes iechyd menywod, gyda modiwlau pellach ar y menopos, atal cenhedlu ac iechyd mislif wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Yn AaGIC, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arweiniad ymarferol i weithwyr proffesiynol i wella’r broses o gydnabod, gwneud diagnosis a rheoli cyflyrau sy’n effeithio ar fenywod ledled Cymru."

Mae'r modiwlau newydd ar gael nawr drwy'r Hwb Addysg Iechyd Menywod ar Y Ty Dysgu.

I gael y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf am Iechyd Menywod gan AaGIC, tanysgrifiwch i restr bostio Iechyd Menywod AaGIC.