Cyhoeddedg 2/02/2026
Mae AaGIC wrth ei fodd yn cyhoeddi bod Prentisiaeth Technoleg Ddeintyddol Lefel 5 gyntaf Cymru bellach ar y gweill. Wedi'i datblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ALS Training ac arbenigwyr yn y sector, mae'r rhaglen hon yn cynnig llwybr newydd i weithwyr deintyddol proffesiynol i ennill sgiliau uwch a datblygu eu gyrfaoedd.
Yn gynharach eleni, bu’n gweithio gyda phartneriaid i adnewyddu a moderneiddio’r fframwaith, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau’r sector ac yn cefnogi ei ddarpariaeth gyntaf yng Nghymru.
Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd bellach yn cynnig y rhaglen mewn partneriaeth ag ALS training - darparwr blaenllaw o hyfforddiant, dysgu a datblygu yn y gwaith ledled Cymru - gydag 11 o brentisiaid wedi cofrestru ar draws tri grwp blwyddyn. Mae'r cwrs yn cyfuno dysgu ar-lein â gweithgareddau dilysu wyneb yn wyneb, gan sicrhau bod prentisiaid yn ennill gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol.
Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi mewn labordai deintyddol, ysbytai a phractisau, gan gyfrannu at ddylunio a gweithgynhyrchu digidol fel rhan o gwmpas ymarfer estynedig ar gyfer nyrsys deintyddol.
*Mae ceisiadau ar gyfer y cyfnod derbyn nesaf ar agor nawr. Mae dyddiadau allweddol yn cynnwys:
• Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Gorffennaf 2026
• Ffenestr cyfweliadau: 8–12 Mehefin a 10–14 Awst 2026
• Wythnos Groeso: 21 Medi 2026
• Addysgu'n dechrau: 28 Medi 2026
*Mae pob lle yn amodol ar gyllid yn cael ei gadarnhau gan Medr Ewch i Technoleg Ddeintyddol (Prentisiaeth Uwch) | Prifysgol Metropolitan Caerdydd neu e-bostiwch emapley@cardiffmet.ac.uk i gael manylion ar sut i wneud cais.
Mae'r garreg filltir hon yn cefnogi uchelgais AaGIC i ehangu mynediad at yrfaoedd iechyd a darparu modelau addysg arloesol ar gyfer gweithlu cynaliadwy. Mae hefyd yn cefnogi'r Cynllun Gweithlu Deintyddol Strategol drwy alluogi datblygu rolau mewn deintyddiaeth ddigidol a helpu i wella mynediad cleifion ac ansawdd gofal ledled Cymru.
“Rwyf wrth fy modd bod AaGIC wedi gallu arwain y gwaith hwn mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y system. Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi bod yn
ddarparwr uchel ei barch o hyfforddiant technoleg ddeintyddol o safon yng Nghymru ers amser maith ac mae sefydlu'r llwybr hyfforddi ychwanegol hwn i ddatblygu'r gweithlu mewn ffordd ddigidol yn esblygiad naturiol o'r cynnig hyfforddiant.” -Kirstie Moons, Deon Deintyddol Ôl-raddedig, AaGIC.
“Mae’r tîm Technoleg Ddeintyddol yn gyffrous am y cyfleoedd y mae Prentisiaeth Gradd Sylfaen yn eu cynnig i weithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru. Nid yn unig yr ydym yn recriwtio prentisiaid o labordai deintyddol yng Nghymru, ond rydym hefyd yn addasu ein prentisiaeth i apelio at bob gweithiwr proffesiynol deintyddol sydd â diddordeb mewn cynhyrchu dyfeisiau deintyddol trwy fanteisio ar ddatblygiadau mewn deintyddiaeth ddigidol. Credwn y bydd y dull hwn yn gwella'r cymysgedd sgiliau o fewn timau deintyddol gan ddarparu mwy o lwybrau ar gyfer dilyniant gyrfa a datblygu sgiliau ychwanegol.”- Edward Mapley, Uwch Ddarlithydd mewn Technoleg Ddeintyddol, Met Caerdydd.