Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Cyhoeddedg 31/03/2026
Mae llif cleifion yn un o'r heriau mwyaf parhaus sy'n wynebu gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ledled Cymru. Mae afiechydon tymhorol fel norofirws a'r ffliw yn rhoi pwysau ychwanegol ar gapasiti ysbytai, gan waethygu'r rhwystrau presennol wrth dderbyn, trin a rhyddhau cleifion.
Mae llif cleifion effeithlon yn sicrhau bod pobl yn symud yn hawdd trwy bob cam o'u taith gofal, o'u derbyn hyd at eu rhyddhau neu eu trosglwyddo, heb unryw oedi diangen. Pan fydd llif cleifion yn cael ei amharu, gall ysbytai ei chael hi'n anodd derbyn cleifion o adrannau brys, gan arwain at amseroedd aros hirach a mwy o bwysau ar draws GIG Cymru.
Er mwyn helpu'r gweithlu i fynd i'r afael â'r heriau hyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio'r Rhwydwaith Optimeiddio Llif Cleifion Ysbytai ar Y Tŷ Dysgu, y platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru.
Dywedodd Lisa Basset, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng yn AaGIC:
Y llynedd, cydweithiodd AaGIC â'r Rhaglen Chwe Nod Cenedlaethol ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng, i ddylunio a chyflwyno cyfres o weminarau Cefnogi Cynllunio Rhyddhau ac Optimeiddio Llif Cleifion Ysbytai ledled Cymru.
Nod y gyfres oedd meithrin hyder ymhlith gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gymhwyso'r Fframwaith Optimeiddio Llif Cleifion Ysbytai yn ymarferol. Wedi'i ddatblygu i leihau arosiadau diangen yn yr ysbyty a chefnogi rhyddhau cleifion yn amserol, mae'r fframwaith yn hyrwyddo dulliau sy'n galluogi cleifion i wella yn y lleoliad mwyaf priodol.
Mae Rhwydwaith Optimeiddio Llif Cleifion Ysbyty ar gael ar Y Ty Dysgu.
Mae AaGIC yn parhau i gefnogi cydnerthedd gwasanaethau gofal brys ac argyfwng yng Nghymru trwy amrywiaeth o fentrau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we'r rhaglen Gofal Brys ac Achosion Brys: Rhaglen gofal brys ac argyfwng - AaGIC